Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dathlu ar ôl ennill yng Ngwobrau GIG Cymru 2024.
Y prosiect buddugol yw:
Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru
Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni yng Nghaerdydd a fynychwyd gan y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o bob rhan o GIG Cymru.
Dywedodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru:
“Llongyfarchiadau i’r enillwyr ond hefyd i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr heddiw. Mae Gwobrau GIG Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Rwy’n falch iawn o weld ehangder y prosiectau gwella ansawdd sydd ar y gweill ar draws GIG Cymru i drawsnewid ein gwasanaethau ar gyfer y rhai yr ydym yn gofalu amdanyn nhw. Gobeithio bod pob un ohonoch yn haeddiannol falch o’ch cyflawniadau yn y cyfnod heriol hwn.”
Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru. Mae’n darparu ac yn arddangos y staff iechyd a gofal dawnus sy’n cydweithio i wella gwasanaethau a gofal cleifion ledled Cymru.
I ddarllen mwy am bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac am wybodaeth am yr enillwyr eleni, ewch i gwobraugig.cymru.
25/10/2024