Neidio i'r prif gynnwy

Graddedigion Project Search: Stori Ethan

Mae Ethan yn raddedig o Project Search sy'n byw ym Merthyr. Mae ganddo ADHD, ADD a dyslecsia. Dyma stori ei interniaeth: 

Mynychodd Ethan Ysgol Uwchradd Cyfarthfa cyn dechrau ei gwrs ac interniaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Merthyr a’r Coleg. 

Cwblhaodd leoliadau gyda'r tîm(au) Patholeg a Haematoleg yn Ysbyty'r Tywysog Siarl wrth gwblhau cwrs Astudiaethau Galwedigaethol gyda Choleg Merthyr.

Yn ystod ei leoliad, helpodd Ethan gyda glanhau cyffredinol y labordy, glanhaodd yr allgyrchydd, gwnaeth yn siŵr bod lefelau hylif wedi'u hail-lenwi, cefnogodd gyda'r storfeydd ac ad-drefnodd yr ystafell stoc. 

Ar ôl cyfnod byr, roedd Ethan yn gweithio'n annibynnol i raddau helaeth, oherwydd ei ethos gwaith rhagorol a'r ymddiriedaeth a enillodd gan y staff.

Roedd y timau wrth eu bodd gydag Ethan yn ystod ei interniaeth, gyda'i fentor Wayne yn disgrifio Ethan fel 'chwa o awyr iach' ac yn egluro sut y gwnaeth 'fywyd yn llawer haws' i'r adran. Dywedodd cydweithiwr arall, Kyle, ei fod 'wrth ei fodd yn cael Ethan o gwmpas'. 

Dywedodd Ethan: “Rydw i’n llawer gwell am reoli tasgau nawr. Rydw i'n bendant yn fwy hyderus ac yn barod ar gyfer byd gwaith. Dw i’n mynd i barhau i wirfoddoli gydag Elite pan ddaw’r interniaeth i ben a pharhau i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth a/neu brentisiaeth.

Dywedodd Gavin Llewellyn, Coleg Merthyr: “Rydym yn hynod falch o Ethan, a pha mor galed y mae wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae wedi hwylio trwy'r cwrs. Fel intern, fe aeth ati’n sydyn, ac ef oedd yr un mwyaf annibynnol o blith y garfan eleni, gan fod angen dim ond ychydig iawn o gefnogaeth arno gan ein tîm, ac yn barod i roi cynnig ar unrhyw beth heb unrhyw ffws. Mae wedi meithrin hyder go iawn ers bod yn yr Adran Patholeg, mae hefyd wedi gwella ei sgiliau cymdeithasol ac wedi dod yn fwy agored i roi cynnig ar bethau newydd.”

Dywedodd Rhian Lewis: “Mae interniaeth a gwaith Ethan gyda’r Adran Patholeg a Haematoleg yn arddangosiad clir y gall pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol nid yn unig wneud cyfraniadau gwych i fyd gwaith a chymdeithas ehangach, ond y gall y rolau hyn eu helpu i ffynnu a thyfu. Hoffem ddymuno llongyfarchiadau mawr iawn i Ethan a'r tîm Patholeg/Haematoleg ar leoliad mor llwyddiannus!