Eleni, mewn cydweithrediad â Natural UK, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cynhyrchu addurniadau Nadolig anhygoel wedi’u gwneud o’i wastraff clinigol ei hun, gan leihau faint o wastraff sy’n cael ei losgi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae BIP CTM wedi cydweithio â Natural UK, y cwmni casglu gwastraff clinigol annibynnol mwyaf yng Nghymru, i edrych ymhellach ar atebion arloesol i ailasesu ffrydiau gwastraff clinigol ac i ddod o hyd i gyfleoedd i gynhyrchu gwerth o fewn CTM.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan SBRI, gyda chefnogaeth y timau rheoli gwastraff ac Arloesi, sy’n gweithio gyda Natural UK. Trwy'r gwaith hwn, mae CTM wedi gallu lleihau faint o wastraff clinigol sy'n mynd i gael ei losgi, gan leihau costau ariannol ac allyriadau carbon i'r Bwrdd Iechyd.
Fodd bynnag, nid yw'r prosiect yn dod i ben yno. Trwy atebion arloesol, mae Natural UK wedi echdynnu plastigau gwerthfawr o’r gwastraff clinigol ac wedi creu deunydd y gellir ei ddefnyddio at amrywiaeth o ddefnyddiau.
Dywedodd Calum Shaw, Rheolwr Cynaliadwyedd BIPCTM: “Mae ein cydweithrediad â Natural UK wedi ein galluogi i weithio tuag at ein nodau o ddod yn fwrdd iechyd gwyrddach a glanach. Mae’r peilot hwn wedi dangos effaith a phwysigrwydd anhygoel ailasesu beth rydym yn ei feddwl fel gwastraff, a’r cymwysiadau a’r defnyddiau anhygoel y mae hyn wedi’u creu ar gyfer y deunydd wedi’i ailgylchu – gan gynnwys addurniadau Nadolig! Edrychwn ymlaen at barhau â’n partneriaeth yn 2025.”
20/12/2024