Cleifion Glawcoma ym Merthyr Tudful yw'r cyntaf i dreialu gwasanaeth asesu gofal sylfaenol newydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM). Dyma’r gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y DU.
Mae'r bwrdd iechyd wedi lansio'r gwasanaeth peilot yn Specsavers yn Sgwâr y Farchnad ym Merthyr Tudful, er mwyn ei gwneud hi mor hawdd a chyfleus â phosib i fonitro cleifion Glawcoma’r GIG yn lleol.
Gyda chyllid gan Gronfa Trawsnewid Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, aeth BIP Cwm Taf Morgannwg ati i brynu a gosod offer arbenigol yn y siop. Mae’r bwrdd iechyd wrthi’n ysgrifennu at bob claf cymwys, a daeth y claf cyntaf fis diwethaf.
Mae monitro Glawcoma pobl yn bwysig gan fod golwg pobl yn gallu dirywio gyda'r cyflwr os na fydd yn cael ei drin, a does dim modd gwrthdroi’r effeithiau hyn. Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau bod cleifion isel eu risg yn cael eu hasesu mewn practisiau optegwyr lleol cyfleus, tra bydd y rheiny sydd mewn mwy o berygl yn parhau i fynd i’w clinigau llygaid yn yr ysbyty.
Bydd optometrydd yn asesu cleifion isel eu risg yn Specsavers ym Merthyr Tudful, a bydd y canlyniadau'n cael eu rhannu mewn amser real â gwasanaeth offthalmoleg arbenigol CTM dan arweiniad meddygon ymgynghorol, er mwyn iddyn nhw eu hadolygu. Os bydd unrhyw ddirywiad i’w weld, bydd y tîm yn trefnu i'r claf weld ymgynghorydd mewn clinig llygaid yn yr ysbyty. Fel arall, bydd y claf yn parhau i gael ei adolygu'n rheolaidd yn lleol.
Y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio i rannu gwybodaeth cleifion yw’r cyntaf o’i math ym maes gofal iechyd llygaid yn y DU. Mae fideos a sganiau llawn o’r nerf optig, y macwla a meysydd gweledol sy’n cael eu creu yn ystod asesiad ar gael ar unwaith i’r arbenigwyr yn yr ysbyty i’w hadolygu.
Erbyn hyn, mae’r gwasanaeth ym Merthyr Tudful yn cael ei gynnal ar wahanol adegau, gan gynnwys ar benwythnosau. Y bwriad yw cyflwyno gwasanaeth peilot tebyg dros y ddau fis nesaf yn Davies & Jones Optometrists yn y Porth ac yng Nghanolfan Optegol Tonysguboriau ac Aberpennar. Yna, yn dibynnu ar ei lwyddiant, bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn ar ôl mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Nod y gwasanaeth yw darparu'r gofal gorau a’r gofal mwyaf priodol ac amserol i gleifion. Bydd cleifion isel eu risg yn cael apwyntiadau mwy cyfleus tra eu bod nhw’n parhau dan ofal offthalmolegwyr y GIG, a bydd cleifion Glawcoma uchel eu risg yn dal i fynd i glinigau llygaid yn yr ysbyty. Drwy hyn, bydd pob claf yn cael ei weld yn gyflymach. Mae’n bosib asesu tua 4,000 o gleifion Glawcoma yn yr ardal CTM yn effeithiol yn y gymuned.
Cafodd y prosiect ei arwain gan ymgynghorydd offthalmig locwm Cwm Taf Morgannwg, Andrew Feyi-Waboso. Dywedodd fod gofal Glawcoma ar y cyd yn dod â gofal rhagorol yn nes at y cleifion sydd ei angen.
"Mae adborth y cleifion yn gadarnhaol iawn," meddai.
"Mae'r gwasanaeth yn defnyddio capasiti a sgiliau optometryddion lleol yn y gymuned i ysgafnhau'r baich ar ofal eilaidd, ac yn galluogi rhannu gwybodaeth cleifion â thechnoleg fodern gan roi gofal llygaid di-dor ac amserol o ansawdd uchel i gleifion. Fel hyn, gall ysbytai ganolbwyntio ar weld cleifion uchel eu risg, gan wybod bod cleifion isel eu risg yn cael eu gweld yn brydlon yn y gymuned.
"Hwn yw dyfodol gofal Glawcoma, a byddwn ni’n arwain y model gwasanaeth hwn yma yng Nghymru."
Cyflawnodd yr optometrydd Kelly Pitchford, sy'n cynnal yr asesiadau yn Specsavers ym Merthyr Tudful, leoliad chwe mis o hyd gyda Mr Feyi-Waboso yn rhan o'i chymhwyster Glawcoma arbenigol. Mae angen hwn er mwyn cynnal y profion yn y practis.
"Mae hwn yn wasanaeth mor bwysig i’r cleifion y mae angen eu hasesu'n drylwyr bob blwyddyn er mwyn iddyn nhw osgoi colli eu golwg," meddai.
"Ar ôl i gleifion gael y diferion llygaid sy’n cael eu rhoi iddyn nhw yn ystod y prawf, fyddan nhw ddim yn gallu gyrru am bedair awr, felly mae cyfleustra’n ffactor bwysig, gan fod rhaid trefnu i rywun arall fynd â nhw i’r apwyntiad. Oherwydd hyn, maen nhw wedi bod yn hapus iawn dod yma ar gyfer eu clinig, sydd gymaint yn nes at eu cartref."
Monica James o Drecynon oedd un o'r cleifion cyntaf gafodd ei hasesu yn Specsavers.
"Roedd rhaid i mi gael diferion, felly ces i lifft i fy apwyntiad heddiw gan fy ngŵr. Roedden ni'n gallu parcio'n hawdd a doedd hi ddim yn rhy bell i gerdded," meddai.
"Mae'n braf gwybod bod y profion wedi mynd yn syth i’r ysbyty ac mae’n wych dod yma. Mae'n arbed yr holl strach o deithio i'r ysbyty."
Bydd cleifion Glawcoma lleol y GIG sy'n addas ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn yn gallu disgwyl llythyr gan BIP CTM, fydd yn esbonio'r trefniadau newydd ar gyfer eu hasesiadau. Ar ôl hynny, bydd yr optegwyr lleol yn cysylltu â nhw i drefnu apwyntiad cyfleus.
Beth yw Glawcoma?
Symptomau Glawcoma
Profion ac asesiadau rheolaidd
Os oes unrhyw bryderon gyda chi ynglŷn â’ch golwg, dylech chi gysylltu â’ch optegydd lleol neu eich meddyg teulu. |