Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch iawn o groesawu’r garfan gyntaf o nyrsys tramor i’w cyfnod sefydlu i CTM heddiw (Mai 26). Mae deunaw o nyrsys wedi cyrraedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf hyd yn hyn ac mae ganddynt leoliadau yn ein Hysbytai, gyda 79 arall yn cyrraedd gyda ni erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Karen Bryant-Davies, Uwch Nyrs, Addysg Nyrsio: “Mae’r nyrsys yn gaffaeliad enfawr i ni yma yn y Bwrdd Iechyd ac i’n poblogaeth. Mae ein Rhaglen Nyrsio Tramor yn chwarae rhan enfawr wrth ein galluogi i gynnal y gweithlu sydd ei angen arnom i gynnal ein gwasanaethau. Rydym yn falch iawn o’u croesawu heddiw.”
Mae Addysg Nyrsio wedi bod yn ymwneud ag addysg nyrsio a pharatoi dramor erioed, ond dyma'r tro cyntaf fel rhan o brosiect 'Cymru Gyfan'.
Ychwanegodd Ben Durham, Nyrs Arweiniol ar gyfer Ymarfer Proffesiynol: “Mae'n bwysig iawn pan fydd Nyrsys Tramor yn ymuno â ni ein bod yn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ym mhob ffordd. Maent wedi teithio’n bell ac wedi gadael eu teuluoedd, weithiau eu plant a’u partneriaid, ac mae angen i ni sicrhau yn ogystal â diwallu eu hanghenion hyfforddi ein bod yn eu cefnogi gyda’u hanghenion personol hefyd.”
Daeth Pavithra Aluru Pandurangaiah, tri deg pump oed, o India ym mis Hydref 2019, gan adael ei babi 2 oed a’i gŵr ar ei hôl. Dywedodd Pavithra: “Roedd gen i lawer o deimladau cymysg pan adewais i India. Roeddwn yn gyffrous i fod yn dechrau fy ngyrfa nyrsio ond yn dorcalonnus i fod yn gadael fy mabi, gŵr a theulu. Fodd bynnag, gofalodd y bwrdd iechyd amdanaf ac nid wyf yn difaru. Roeddwn hefyd yn ffodus bod fy nheulu wedi ymuno â mi dri mis ar ôl i mi gyrraedd. Rwyf bellach yn rhan o’r tîm aseswyr nyrsio, yn croesawu’r nyrsys newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, swydd yr wyf yn ei mwynhau’n fawr.”
Edrychwn ymlaen at groesawu'r garfan nesaf o nyrsys i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn y misoedd nesaf!
Gallwch weld fideo Diwrnod Sefydlu Nyrsys Tramor isod: