Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dathlu ar ôl cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau GIG Cymru eleni, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 20 Gorffennaf).
Mae'r Gwobrau GIG Cymru yn cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol. Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cael ei enwebu ar gyfer y wobr ganlynol:
Gweithio'n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Addasu Cardbord at Dibenion Gwahanol: partneriaeth beilot rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac ELITE Paper Solutions.
Dwedodd Prif Swyddog, Paul Mears: "Rwy'n falch o weld bod ein bwrdd iechyd ymhlith y rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau GIG Cymru eleni. Mae ein staff yn gweithio'n aruthrol o galed drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n wych gweld eu harloesedd yn cael ei gydnabod fel hyn."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 26 Hydref yng Nghaerdydd. Gyda nifer aruthrol o enwebiadau ysbrydoledig wedi’u cyflwyno eleni, roedd y panel beirniadu o arbenigwyr y GIG yn ei chael hi’n hynod o anodd llunio rhestr fer o’r 24 a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn yr wyth categori gwobrau. Yn y cam nesaf, bydd y beirniaid yn ymweliad â phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn rhithwir i gael rhagor o wybodaeth am eu prosiectau gwella.
I gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i gwobraugig.cymru.
21/07/2023