Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIP CTM yn ymuno â Menter Fast Track Cymru

Yr wythnos diwethaf ar ddydd Iau 13eg Chwefror, llofnododd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg Ddatganiad Paris ac ymunodd â Menter Fast Track Cymru. Fel aelod o’r Bartneriaeth, mae hyn yn cadarnhau ein hymrwymiad fel bwrdd iechyd i weithio ar y cyd i ddod â throsglwyddiadau newydd o Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV) i ben.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae cynnydd aruthrol wedi’i wneud o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth, a gall Cymru fod yn falch o’r gostyngiad sylweddol a welwyd mewn diagnosis newydd o HIV. Rhwng 2015 a 2021 cafwyd gostyngiad o 75% yn y diagnosis newydd o HIV. Fodd bynnag, mae HIV yn parhau i fod yn fater iechyd cyhoeddus pwysig.

Rhwydwaith o ddinasoedd a rhanbarthau ledled Cymru sy’n gweithio gyda’i gilydd fel rhan o ymdrech newydd i ddod â throsglwyddiadau newydd o HIV yng Nghymru i ben erbyn 2030 yw Fast Track Cymru.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae rhwydwaith Fast Track Cymru yn cael ei gynnal gan Pride Cymru ac yn gweithredu o dan Gyngor Cynghori cenedlaethol. Mae Fast Track Cymru yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o Gymru, gan gydweithio yn unol â Chynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023-2026  Llywodraeth Cymru.

Nod BIPCTM wrth ymuno â Fast Track Cymru yw annog a galluogi cydweithredu ar draws y bwrdd iechyd a chyda phartneriaid lleol fel y gallwn gydweithio tuag at 2030 heb drosglwyddo HIV, gan wella atal, profi, triniaeth a gofal, a lleihau stigma ar draws ein cymunedau.

Dywedodd Dr Rob Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, BIPCTM: “Mae datblygiadau mewn triniaeth, profi ac atal yn golygu bod gennym ni gyfle i Gwm Taf Morgannwg sy’n rhydd o drosglwyddo HIV a stigma. Mae cydweithio fel rhan o’r mudiad Fast Track yn rhoi’r cyfle gorau i ni ddileu achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030, drwy wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod eu statws HIV, cael mynediad at driniaeth, atal trosglwyddo, a byw’n rhydd o stigma.”

Dywedodd y Cynghorydd  (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr) a Chadeirydd Fast Track CTM Rhys Goode: “Rwy’n falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg heddiw yn dod yn rhan swyddogol o deulu Fast Track Cymru i ddileu trosglwyddiadau HIV a stigma yng Nghymru erbyn 2030. Yng Nghymru heddiw, mae gan ormod o bobl ddealltwriaeth hen ffasiwn o HIV ac edrychaf ymlaen at weld CTM yn chwarae ei ran i ledaenu’r neges y dylai pawb wybod eu statws erbyn 2030 ac na allwch drosglwyddo HIV ymlaen gyda thriniaeth effeithiol.”

20/02/2025