Yr wythnos diwethaf bu BIP CTM yn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025 drwy arddangos a dathlu prentisiaid o bob rhan o CTM.
Ar hyn o bryd mae CTM yn cynnig prentisiaethau fel Cynorthwywyr Nyrsio, Gweithwyr Cymorth Fferylliaeth, Gwasanaethau Pobl – AD, Ffisiotherapi, Gweinyddu a Chlercol, Gweithwyr Cymorth Mamolaeth, Dysgu a Datblygu a Phrofiad y Claf i enwi dim ond rhai.
Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi dros 23 o aelodau staff sy’n cael eu cyflogi yn uniongyrchol fel prentisiaid ac wedi cefnogi dros 870 o staff i uwchsgilio i gwblhau ystod o gymwysterau gan gydbwyso astudiaethau â gwaith.
Dywedodd Rhian Lewis, Arweinydd Dysgu a Datblygu (Prentisiaethau, Cymwysterau, Llwybrau ac Ehangu Mynediad): “Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle gwych i arddangos talent, ymroddiad a brwdfrydedd ein prentisiaid, yn ogystal â’r rôl hanfodol y maen nhw’n ei chwarae wrth lunio dyfodol ein gweithlu.
“Mae eu hymrwymiad i ddysgu, datblygu sgiliau newydd, a chyfrannu at ein Bwrdd Iechyd yn wirioneddol ysbrydoledig. Maen nhw’n dod ag egni a syniadau newydd, gan ein helpu i dyfu a gwella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i'n cleifion a'n cymunedau. Rydym yn hynod falch o bob un ohonyn nhw ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn ffynnu yn eu gyrfaoedd.
“Hoffwn ddiolch i bob un o’r rheolwyr a’r mentoriaid sy’n cefnogi ein prentisiaid drwy ddarparu arweiniad, anogaeth, eu cefnogi i adeiladu prentisiaid, adeiladu a datblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo.
“Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i’n darparwyr hyfforddiant am eu cyfraniadau amhrisiadwy. Mae ACT, Educ8 a Talk Training wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod ein prentisiaid yn cael cyfleoedd hyfforddi a datblygu o’r safon uchaf. Mae eu partneriaeth yn allweddol i lwyddiant ein rhaglenni prentisiaeth.
“Mae ein prentisiaid yn weithwyr parhaol o’r amser maen nhw’n ymuno â CTM . Maen nhw’n cael cyfran o’u cyflog drwy ddefnyddio Atodiad 21. Maen nhw’n cael 70% o raddfa band y GIG yn y flwyddyn gyntaf, 75% yn yr ail flwyddyn a hyd at gwblhau'r cymhwyster. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, byddan nhw wedyn yn trosglwyddo i’r lefel mynediad ar gyfer eu band.”
“Trwy fuddsoddi mewn prentisiaethau, mae BIP CTM yn buddsoddi yn nyfodol ein gweithlu a llwyddiant hirdymor ein bwrdd iechyd drwy greu cyfleoedd, datblygu talent, a chryfhau ein sefydliad am flynyddoedd i ddod.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio Academi Prentisiaethau CTM: CTM.Qualifications@wales.nhs.uk.
21/02/2025