Mae gwirfoddolwyr sy’n methu â rhoi cymorth wyneb yn wyneb i gleifion yn ystod y cyfyngiadau symud wedi troi at grefftau i nodi Dydd y Cofio mewn ffordd wahanol. Mae torchau hyfryd o babïau wedi eu creu, pabïau wedi eu gwau a chardiau wedi eu gwneud â llaw er mwyn gwella lles cleifion sy’n dioddef oherwydd COVID-19 a’r staff sy’n edrych ar eu hôl nhw.
Wrth i ddigwyddiadau mawr orfod cael eu gohirio eleni, mae ein llu o wirfoddolwyr wedi bod yn benderfynol o ddefnyddio eu sgiliau newydd i nodi Sul y Cofio a Thachwedd 11. Mae torchau hyfryd o babïau yn cael eu harddangos yn Ysbyty’r Seren ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae dwsinau o babïau unigol wedi cael eu gwau. Yn ogystal â hynny, mae un gwirfoddolwr wedi ysgrifennu cerdd drawiadol ar gyfer Dydd y Cofio ac wedi paentio cae o babïau i gyd-fynd â hi.
Meddai Cydlynydd Gwirfoddoli Cwm Taf Morgannwg, Glenda Phillips: “Cyn COVID-19, roedd mwy na 300 o wirfoddolwyr gyda ni ar draws y Bwrdd Iechyd ond roedd rhaid i ni eu rhyddhau nhw ar ddechrau’r pandemig a does dim modd iddyn nhw ddychwelyd at rolau sy’n dod i gysylltiad â chleifion. Mae ein gwirfoddolwyr yn amrywio o ran oedran, o mor ifanc ag 16 i’w 90au, ac mae llawer ohonyn nhw wedi defnyddio’r gwasanaeth eu hun.
“Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd anffurfiol ar-lein bob wythnos ac mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn gwneud amrywiaeth o bethau, fel celf a chrefft a therapïau ategol. Mae rhai ohonyn nhw wedi gwneud tedis trawma a ‘twiddle muffs’ gyda gwlân gafodd ei roddi gan aelodau o’r gymuned leol, ac mae nifer o eitemau gwau wedi cael eu rhoddi gan St Brides Knit and Natter, sef grŵp mae nifer o’n gwirfoddolwyr yn perthyn iddo. Mae rhai o’n gwirfoddolwyr hefyd wedi gwau pabïau unigol, creu torchau, rhoi pabïau ar gardiau ac addurno CDs.”
Mae’r pabïau wedi cael eu rhoddi i Dîm Caplaniaeth Cwm Taf Morgannwg, sy’n cynnwys Caplan Ysbyty’r Seren, Hilary Pritchard, a Mavis Martin sy’n wirfoddolwr. Mae’r ddau wedi cael cymeradwyaeth i roi cymorth i gleifion sy’n gwella ar ôl cael COVID-19.
Ychwanegodd Glenda: “Mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio mor galed y tu ôl i’r llenni ac yn gweld eisiau’r cysylltiad wyneb yn wyneb â chleifion, felly mae’n braf iawn cael tynnu sylw at y pethau gwych maen nhw wedi bod yn eu gwneud yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae Julie Croad, sy’n wirfoddolwr, wedi troi at grefftau yn ystod y pandemig ac wedi paentio cae hyfryd o babïau ac ysgrifennu cerdd i’w rhannu â’r gymuned.”
Remember Me
© Julie Croad
Think of me on a bright blue day
as you stroll our country lane.
The breeze that gently strokes your face
will softly sigh my name.
When the summer grass was green
we ran here long ago.
We thought we had forever
and time went by so slow.
When the golden corn is high,
walk on to the surging brook.
Pause a while upon the bridge
as round about you look.
Now take the path that leads you
down to the wooden stile.
Stay a moment, you’ll recall
this is where we said goodbye.
Does the sign that points the way
still stand in the same place?
You know you cannot follow me.
Dry the tears upon your face.
Gaze across the cornfield,
but do not climb the stile.
The path I took you cannot tread –
but remember me and smile.
Turn towards the ancient trees
that grow so proud and tall.
If only times were different,
we might have had it all.
Sweet poppies growing all around.
They smile and nod their heads.
Henceforth they’ll have new meaning
when not a word is said.
And the many lives discarded
for the price that freedom costs
will always be remembered
and never one forgot.
So in a silent moment,
think of how I set you free.
Our voices echo down the years,
“Darling, please remember me.”