Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lansio datganiadau Llais y Baban a’r Plentyn Bach CTM i hyrwyddo hawliau babanod a phlant bach sy'n byw yn y rhanbarth.
Mae datganiadau Llais y Baban a’r Plentyn Bach CTM yn anelu at hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP),
ytundeb rhyngwladol sy'n amddiffyn hawliau dynol plant hyd at 18 oed. Mae CCUHP yn cydnabod nid yn unig eu hawliau dynol sylfaenol ond hefyd yn hawliau ychwanegol iddyn nhw i'w hamddiffyn rhag niwed.
Mae'r 1000 diwrnod cyntaf o fywyd, o'r beichiogi hyd at ddwy oed, yn gyfnod o gyfle unigryw a bregusrwydd i fabanod a phlant bach. Maen nhw'n tyfu'n gyflym, ac mae’n adeg pan fydd y sylfeini ar gyfer eu hiechyd, eu lles, eu perthnasoedd, eu hymddygiad a’u datblygiad diweddarach yn cael eu gosod.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae ymennydd babanod yn cael ei siapio gan eu hamgylchedd, eu profiadau, eu perthnasoedd a’u rhyngweithiadau gyda'r oedolion dibynadwy sy'n gofalu amdanyn nhw.
Fel pob person, mae babanod yn profi amrywiaeth o emosiynau yn ymateb i beth hyn sy'n digwydd yn eu bywydau. Er na allan nhw ddweud wrthym sut maen nhw'n teimlo, gall rhai bach deimlo'n hapus ac yn ddiogel, yn anhapus neu'n ofidus. Mae eu lles emosiynol yn dylanwadu ar sut maen nhw'n profi, rheoli a mynegi emosiynau, ac a ydyn nhw’n teimlo'n ddiogel ai peidio i archwilio'r byd o'u cwmpas.
Roedd rhieni a dros 120 o staff sy'n gweithio gyda babanod a phlant bach ar draws Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr yn rhan o greu datganiadau Llais y baban a'r Plentyn Bach CTM. Cafodd y datganiadau eu hysgrifennu trwy 'lais y baban' a'u nod yw dod â phwysigrwydd meithrin perthnasoedd diogel a gweld babanod a phlant bach fel pobl bach yn eu rhinwedd eu hunain, gyda meddyliau, teimladau ac emosiynau. Dyma'r un emosiynau sy’n cael eu teimlo gan oedolion.
Julie Powell-Jones (Rheolwr Prosiect Perthnasau rhwng Babanod a Rhieni) sy'n cyflwyno'r datganiadau Llais y Baban a’r Plentyn Bach yma:
Dywedodd Greg Dix (Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol) : "Bydd y datganiadau llais y baban a’r plentyn bach yn ein cefnogi ni i gyd i ystyried anghenion plant cyn-eiriol, gan bwysleisio pwysigrwydd y 1000 diwrnod cyntaf. Wedi'u hysgrifennu trwy 'lais y baban', mae'r datganiadau hyn yn tynnu sylw at arwyddocâd ystyried emosiynau a safbwyntiau plant mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles. Wedi'i ddatblygu gyda phartneriaid a theuluoedd ymroddedig ledled ein rhanbarth, rydw i’n falch iawn o gefnogi eu lansiad o fewn BIP CTM."
Cynhaliodd y tîm Perthynas rhwng Rhieni a Babanod sesiynau cwrdd a chyfarch mewn sesiynau chwarae Babanod a Phlant Bach i rannu gwybodaeth am y fenter a datganiadau llais y baban a’r plentyn bach gyda rhieni ledled y rhanbarth.
Merthyr Tudful
Dydd Mercher 19 Mawrth, 10:30yb – 11:30yb
Canolfan Lles Gellideg, Grŵp Sylfaen Gellideg, Canol-y-Bryn, Y Ganolfan Lles, Heol Tai Mawr, Merthyr Tudful, DU CF48
Rhondda Cynon Taf
Dydd Mercher 19 Mawrth 1:00yp – 2:00yp
Canolfan Teulu a Phlant Aman, Aberdâr, CF44 6DF
Penybont
Dydd Iau 20 Mawrth 9:15yb – 11:15yb
Dechrau'n Deg Sarn, Merfield Close, Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 9SW
17/03/2025