Mae Kath Palmer wedi’i phenodi’n Is-gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac yn dechrau yn ei rôl newydd ym mis Tachwedd.
Mae Kath wedi gweithio yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru ac mae’n angerddol am wella ein gwasanaethau iechyd, lleihau anghydraddoldebau, a sicrhau bod pobl yn gallu byw bywydau hapusach ac iachach.
Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad mewn polisi cyhoeddus gyda diddordeb arbennig ac arbenigedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, tai, cyfiawnder cymdeithasol, newid hinsawdd, a chydgysylltu gwasanaethau cyhoeddus er budd y rhai y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Mae Kath, sy'n byw yn RhCT, yn gyfrifydd cymwysedig ac yn dod â phrofiad sylweddol o arwain, meddwl strategol a rheoli newid fel cyn uwch was sifil i Lywodraeth Cymru ym maes Iechyd a Thai ac Adfywio ac yn fwy diweddar fel Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Tai leol yng Nghwm Cynon, yn ogystal â bod yn aelod bwrdd profiadol.
Wrth siarad am ei phenodiad dywedodd Kath: “Rwy’n angerddol dros wella ein gwasanaethau iechyd ac rwyf wrth fy modd gyda’r cyfle i fod yn Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol CTM, sy’n gweithredu gwasanaethau mor hanfodol ar draws RhCT, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n edrych ymlaen at yr her o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ym mhob un o'r tri awdurdod lleol ac adeiladu cymunedau iachach gyda'n gilydd”.
Dywedodd Jonathan Morgan, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Rydym yn falch iawn o groesawu Kath i'r Bwrdd yn CTM. Bydd ei hangerdd a’i phrofiad yn gaffaeliad gwirioneddol wrth i ni symud ymlaen fel Bwrdd, yn ogystal â’i gwybodaeth o’r agweddau niferus ar y sector rydym yn gweithio ynddo. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi wrth i ni ymdrechu’n barhaus i wella a thyfu’r gofal a ddarperir i’n cymunedau.”
30/10/2023