Mae ein bwrdd iechyd, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ranbarthol CTM, Cwm Taf People First a People First Bridgend yn cydweithio i hyrwyddo pwysigrwydd gwiriadau iechyd blynyddol i bobl ag anableddau dysgu.
Mae cynyddu mynediad at wiriadau iechyd yn flaenoriaeth genedlaethol, a nodir yng 'Nghynllun Cyflawni a Gweithredu Anabledd Dysgu 2022-2026' Llywodraeth Cymru.
Mae’r nifer sy’n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau bod gan bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd ddewis a rheolaeth dros eu hiechyd a’u lles.
Mae gwiriad iechyd yn cymryd tuag awr; mae’n rhoi cyfle i gleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr fynegi unrhyw bryderon, gofyn cwestiynau, a chael cyngor gan eu meddyg teulu ar sut i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol wrth symud ymlaen.
Yn CTM, mae cynnydd da wedi’i wneud ar draws gofal sylfaenol i gynyddu’r nifer sy’n cael gwiriadau iechyd blynyddol ac ansawdd y profion hynny, ac rydym wedi ymrwymo i wneud cynnydd a gwelliannau pellach fyth.
Mae ffilm wedi'i datblygu sy'n esbonio gwiriadau iechyd blynyddol, gellir ei gweld yma.
Cyd-gynlluniwyd y ffilm gyda phobl ag anableddau dysgu o Gwm Taf Morgannwg, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac arbenigwyr. Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys Tom, hyrwyddwr iechyd rhanbarthol a Dr Hall, meddyg teulu ym Meddygfa Ashgrove ym Mhontypridd.
Mae Dr Hall wedi bod yn rhan o gynllun peilot yn Nhaf Elái, a weithredwyd mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru, i wella prosesau o amgylch gwiriadau iechyd blynyddol.
Yn ogystal, mae BBC Cymru wedi bod yn gweithio gyda ni i helpu i hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd gwiriadau iechyd. Gallwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf yma yn ymwneud â Tom, Dr Hall a Helen Thompson, nyrs anabledd dysgu.
Mae gwella canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu o wiriad iechyd blynyddol yn gam gweithredu blaenoriaeth ar gyfer Ffrwd Gwaith Iechyd Anableddau Dysgu Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am wiriadau iechyd blynyddol, cysylltwch â Wendy James, Arweinydd ar gyfer Anableddau Dysgu, BIP CTM - Wendy.James@wales.nhs.uk.
10/10/2024