Rydym bellach wedi cynnig apwyntiad i bawb sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu'r hydref i'w hamddiffyn rhag COVID-19.
Rydym wedi anfon ychydig llai na chwarter miliwn o lythyrau apwyntiad, sy'n golygu ein bod fis ar y blaen i'n targed o fod wedi cynnig cyfle i bawb gael y brechlyn erbyn mis Rhagfyr.
Rydym hefyd wedi cyflawni carreg filltir arall, gan fynd heibio’r pwynt hanner ffordd gyda 50% o bobl (120,000*) eisoes wedi derbyn eu pigiad atgyfnerthu, gyda gweddill yr apwyntiadau bellach wedi’u trefnu hyd at y Nadolig.
Bydd y brechlyn yn helpu i gefnogi imiwnedd pawb sydd â risg uwch o COVID-19, gan wella eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol, tra hefyd yn helpu i gefnogi'r GIG yn ystod y gaeaf.
Rydych yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu’r hydref os ydych:
Dylai unrhyw un, sy'n byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg ac sy'n meddwl eu bod yn un o grwpiau cymhwysedd i gael pigiad atgyfnerthu'r hydref ond sydd eto i gael apwyntiad, gysylltu â ni nawr. Gallwch gwblhau'r ffurflen apwyntiad 'Meddwl ein bod wedi’ch colli chi?' ar wefan y Bwrdd Iechyd yma - Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (nhs.wales). Cofiwch nodi ym mha grŵp cymhwysedd yr ydych chi. Neu gallwch ffonio ein tîm trefnu apwyntiadau brechu ar 01685 726 464.
Efallai na fyddwch wedi cael apwyntiad os nad oeddem ni’n gwybod eich bod yn un o’r grwpiau, er enghraifft, os ydych yn feichiog, neu’n byw gyda rhywun sydd ag imiwnedd gwan neu sy’n ofalwr di-dâl. Os ydych yn perthyn i unrhyw un o’r tri grŵp hynny, llenwch y ffurflen berthnasol ar gyfer ein gwefan yma – Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (nhs.wales). Unwaith eto, mae gennych yr opsiwn o ffonio ein tîm trefnu apwyntiadau brechu os yw'n haws i chi.
Mae sicrhau ‘nad oes neb yn cael ei adael ar ôl’ yn rhan o strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, CTM2030, drwy greu iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd yn ardal Cwm Taf Morgannwg.
*Ffigwr yn gywir am 07.11.22 am 00.01