Mae gan BIPCTM alw eithriadol ar ein gwasanaethau a’n staff ar hyn o bryd. Helpwch ni drwy ddilyn y pum cam hyn:
1. Defnyddiwch wasanaethau'r GIG yn ddoeth. Ceisiwch gyngor ar drin salwch ac anafiadau penodol gartref trwy GIG 111 Cymru . Ar gyfer anhwylderau cyffredin neu feddyginiaeth y tu allan i oriau, ewch i fferyllfa. Ymwelwch ag adrannau damweiniau ac achosion brys dim ond mewn argyfwng; mae'r GIG yn hynod o brysur felly os byddwch yn ymweld ag adran argyfwng gyda salwch neu anaf llai difrifol, mae'n debygol y byddwch yn aros am amser hir i gael eich gweld wrth i ni drin y rhai â phroblemau iechyd brys sy'n bygwth bywyd.
2. Dilynwch y cyngor a lleihau lledaeniad salwch. Pan fyddwch yn ymweld â lleoliad y GIG, byddwch yn cael eich gofyn i gymryd camau penodol i leihau lledaeniad salwch, fel golchi'ch dwylo neu ddefnyddio hylif diheintydd dwylo. Efallai eu bod nhw’n ymddangos fel pethau bach, ond maen nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr.
3. Helpwch ni i ddarparu gofal i gleifion yn y lleoliad cywir. Mae'n bwysig ein bod yn darparu'r gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnoch, ar yr adeg gywir, yn y lleoliad cywir. Nid yw aros mewn gwely ysbyty acíwt pan nad oes angen i chi fod yno mwyach yn dda i'ch adferiad a gall arwain at ddirywiad yn eich iechyd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ac yn briodol i wneud hynny, byddwn yn anelu at eich trosglwyddo allan o wely ysbyty acíwt ac i leoliad mwy addas, lle gallwch barhau â'ch adferiad a derbyn gofal arbenigol gan dimau yn y gymuned. Nid yn unig yw'r peth gorau i'ch iechyd, mae hefyd yn sicrhau bod gwelyau ysbyty acíwt ar gael i'r rhai sydd â'r salwch a'r anafiadau mwyaf difrifol.
Os oes gennych chi anwylyd sydd ar hyn o bryd yn un o’n hysbytai mawr (YBM, YTS neu YTC) ond y gellid gofalu amdano’n well mewn lleoliad gwahanol yn y gymuned, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi fod y claf yn cael ei drosglwyddo. Cefnogwch ein staff i ddarparu'r gofal gorau posibl i'ch anwyliaid trwy ddilyn eu cyngor a'n helpu ni i wneud y trosglwyddiad yn llyfn ac yn gyflym.
4. Ewch i gael eich brechu! Os ydych yn gymwys i gael brechiadau rhag y ffliw neu COVID, peidiwch â cholli allan. Cael eich brechu yw'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud i atal eich hun rhag mynd yn sâl a dioddef effeithiau gwaethaf y feirysau hyn.
5. Ymwelwch yn gyfrifol. Mae achosion o'r ffliw, COVID, a salwch fel Norofeirws (byg chwydu'r gaeaf) yn cynyddu. Gall y feirysau hyn fod yn beryglus i gleifion sy’n agored i niwed mewn ysbytai, a gallant achosi prinder staff. Os ydych yn credu bod feirws gyda chi, neu wedi treulio amser gyda rhywun sydd â feirws yn ddiweddar, dylech osgoi ymweld ag ysbyty oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.
21/01/2025