Neidio i'r prif gynnwy

Cynorthwyydd Gofal Iechyd (HCA) Kylie yn ennill Gwobr Dewis Myfyrwyr Prifysgol De Cymru

Yn ddiweddar, enillodd Kylie Erricker, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghanolfan Aderyn y Si Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Wobr Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr 2024 Prifysgol De Cymru (PDC).

Cafodd y Gwobrau Dewis Myfyrwyr eu cynnal ar 23 Mai 2024 yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Gampws Trefforest PDC. Maent yn gyfle i ddathlu’r staff a’r myfyrwyr sydd wedi mynd gam ymhellach yn eu gwaith, eu rolau gwirfoddol neu eu bywyd bob dydd.

Dywedodd Kylie: “Gallwn ddweud yn onest fy mod wrth fy modd â'r cwrs. Cefais fy annog ar y dechrau i helpu fel Dirprwy Gynrychiolydd Cwrs ar gyfer fy ngharfan. Mae wedi bod yn wych helpu i gefnogi myfyrwyr eraill gan fy mod yn teimlo ei bod bob amser yn bwysig bod yno i rywun siarad â nhw pan fydd pethau'n mynd yn anodd. Wrth wasanaethu fel cynrychiolydd cwrs, gwelais yn uniongyrchol effaith cefnogaeth ac undod ymhlith cyd-ddisgyblion. Roedd yn fraint cael fy enwebu ar gyfer Gwobr Dewis Myfyrwyr ar gyfer Cynrychiolydd Cwrs y flwyddyn ac yna roedd cyrraedd y rhestr fer yn aruthrol, ni feddyliais erioed y byddwn yn ennill fy nghategori.

“Byddwn yn argymell y cwrs yn fawr i weithwyr cymorth gofal iechyd (HCSWs) eraill a hoffai symud ymlaen. Nid yn unig ydw i wedi dysgu cymaint yn fy mlwyddyn gyntaf, ond rydw i hefyd wedi datblygu sgiliau rhwydweithio gwych ac mae wedi fy helpu i adeiladu ar fy hyder. Ni allaf ddiolch digon i fy nheulu gwaith am eu holl gefnogaeth ac arweiniad ynghyd ac Addysg Nyrsio Cwm Taf Morgannwg ar gyfer rhoi cyfleoedd i addysg bellach”.

Dywedodd Craig Jones (Rheolwr Addysg a Datblygu HCSW, BIPCTM): “Mae ymroddiad ac ymrwymiad eithriadol Kylie fel myfyriwr yn y rhaglen Tystysgrif Lefel 4 mewn Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Addysg Uwch ym Mhrifysgol De Cymru wedi disgleirio drwy ennill y wobr hon. Llongyfarchiadau i Kylie ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Fel cynrychiolydd cwrs, mae Kylie yn fodel rôl ymroddedig ar gyfer yr holl Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSWs) ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM), gan eu hysbrydoli i ragori a chyrraedd eu llawn botensial.

“Mae tîm addysg HCSW yn BIPCTM yn dymuno diolch i Kylie am ymgymryd â’r rôl hon fel mentor, ffynhonnell cymorth a phwynt cyswllt allweddol ar gyfer pob HCSW ar y cwrs. Diolch Kylie am eich ymrwymiad eithriadol ac am fod yn gymaint o glod fel HCSW yn CTM. Gwobr mor haeddiannol. Dymunwn bob llwyddiant i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol!”

Dywedodd Lynne Estebanez (Rheolwr Addysg a Datblygiad HCSW Rhyngbroffesiynol, BIPCTM): “Rydw i’n wrth fy modd gyda’r cyflawniad gwych hwn. Da iawn Kylie! Daliwch ati gyda'r gwaith da!"

Dywedodd Stuart Baker (Tiwtor Cwrs, Prifysgol De Cymru): “Mae Kylie wedi gweithio’n ddiflino, nid yn unig yn meddwl am ei hastudiaethau ei hun, ond hefyd yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr Addysg Gweithiwr Cefnogi Nyrsio Gofal Iechyd CertHE yn cael eu diwallu hefyd. Fel tîm cwrs, mae moeseg gwaith Kylie, ei rheolaeth o'i hamser a'i hymroddiad wedi creu argraff arnom nid yn unig iddi hi ei hun ond hefyd i eraill ar y cwrs. Mae Kylie yn haeddu cael ei chydnabod am ei gwaith caled ac fel tîm cwrs hoffem hefyd ychwanegu ein llongyfarchiadau ar ennill y wobr haeddiannol hon”.

 

10/06/2024