Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gleifion GIG practis deintyddol Broadlands (Pen-y-bont ar Ogwr)

Gwybodaeth i gleifion GIG practis deintyddol Broadlands.

Bydd cleifion yn Broadlands ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn llythyr gan y feddygfa, yn egluro, o 1 Awst 2022, na fydd yn cynnig unrhyw wasanaethau GIG mwyach.

Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn fod yn destun pryder i lawer o gleifion ond byddwch yn dawel eich meddwl, fel Bwrdd Iechyd, rydym bellach yn cwblhau ein cynlluniau a byddwn yn ysgrifennu atoch yn amlinellu sut y byddwch yn parhau i gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG o fis Awst ymlaen. Byddwch yn derbyn ein llythyr cyn diwedd y mis hwn (Gorffennaf 2022).

Os ydych mewn poen ac angen apwyntiad brys, parhewch i gysylltu â Broadlands fel arfer tan 31 Gorffennaf. Bydd ein llythyr yn gwneud y cynlluniau’n glir o fis Awst ymlaen.