Mae prosiect arloesol, dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n anelu at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy gadw defnyddwyr gwasanaethau mamolaeth mewn cysylltiad, wedi cael ei gydnabod trwy wobr fawreddog.
Dyfarnwyd gwobr Gwella Ansawdd Prif Swyddog Nyrsio Cymru a Choleg Brenhinol Bydwragedd Cymru (RCM) ar gyfer 2025 i'r Banc Data Mamolaeth Cynhwysiant Digidol, dan arweiniad Cheri Lewis, Uwch Fydwraig ar gyfer Gwybodeg Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r fenter yn mynd i'r afael â'r broblem o allgáu digidol mae defnyddwyr gwasanaeth mamolaeth yn ei hwynebu. Mae mynediad digidol yn cael ei gydnabod fwyfwy fel penderfynydd cymdeithasol i iechyd a lles, a oedd yn arbennig o amlwg yn ystod pandemig COVID-19, pan amharodd diffyg cysylltedd yn sylweddol ar ddarparu gofal mamolaeth.
Mae'r cynllun yn cefnogi menywod beichiog sy'n profi tlodi data, trwy ddarparu cysylltedd hanfodol trwy gardiau SIM a phecynnau data. Mae'n cyd-fynd yn uniongyrchol â chynllun 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru, gan eirioli dros iechyd a gofal cymdeithasol integredig wedi'i deilwra i anghenion unigol, tra'n lleihau anghydraddoldebau.
Wrth sôn, dywedodd Julie Richards, Cyfarwyddwr RCM Cymru:
"Mae'n wych gweld atebion digidol arloesol yn cael eu cymhwyso mor effeithiol at ofal mamolaeth. Mae harneisio technoleg i gadw menywod a theuluoedd yn gysylltiedig â'u gofal yn gam gwirioneddol ymlaen, yn enwedig i'r rhai sydd wedi bod yn anoddach eu cyrraedd yn draddodiadol ac wedi wynebu rhwystrau at ofal. Mae arloesiadau digidol fel hyn yn offeryn pwerus ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Trwy gofleidio ffyrdd newydd o weithio, gallwn greu gwasanaethau mwy personol, ymatebol sy'n diwallu anghenion pob menyw a’i theulu ar draws ein cymunedau. Mae hwn yn arloesedd cyffrous ar gyfer dyfodol gofal mamolaeth."
Ers cychwyn y prosiect, ym mis Medi y llynedd, mae 41 o gardiau SIM wedi'u dosbarthu, gan alluogi teuluoedd i gysylltu nid yn unig â gwasanaethau mamolaeth ond hefyd â gwasanaethau cyngor, cymorth tai, cyflogaeth, addysg ac adnoddau cymunedol ehangach. Mae'r cysylltedd estynedig yn tynnu sylw at effaith y prosiect, gan fynd i'r afael â nifer o ffactorau cymdeithasol rhyng-gysylltiedig iechyd.
Sefydlodd y prosiect bartneriaeth arloesol gyda Banc Data Cenedlaethol y Good Things Foundation, gan gyfuno cynhwysiant digidol â gofal mamolaeth yn greadigol.
Mae'r fenter yn dechrau cyn gynted ag y bydd menywod yn dechrau'r broses o fwcio i mewn. Mae hyn yn aml cyn yr apwyntiad cyntaf gyda bydwraig, felly caniatáu ymyrraeth rhagweithiol. Mae menywod beichiog a nodwyd trwy'r broses integredig, trwy atgyfeiriad proffesiynol neu hunan-atgyfeirio, yn derbyn cerdyn SIM gyda data wedi'i lwytho ymlaen llaw, gan wella eu mynediad at gofnodion mamolaeth digidol, ymgynghoriadau o bell a gwybodaeth iechyd mewn modd sylweddol.
Mae'r cynllun menter yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau CNO Cymru, yn enwedig wrth wella profiadau cleifion, hyrwyddo darpariaeth gofal teg, a defnyddio arloesedd digidol i wella canlyniadau gofal iechyd. Mae hefyd yn cefnogi'n uniongyrchol y canllawiau statudol Dyletswydd Ansawdd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i fod yn effeithiol, yn deg, yn ganolog i'r person, yn ddiogel, yn amserol ac yn effeithlon.
Mae canlyniadau cychwynnol y peilot yn dangos boddhad uwch gan gleifion, gwell mynediad at adnoddau gofal mamolaeth hanfodol a llai o anghydraddoldebau digidol. Mae pecyn gweithredu wedi'i ddatblygu fel bod mod gweithredu hyn ar draws gwasanaethau mamolaeth o fewn byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Ar ben hynny, mae'r model cynhwysiant digidol yn cynnig cymwysiadau potensial ehangach y tu hwnt i wasanaethau mamolaeth, gyda phosibiliadau i helpu pobl yn ehangach ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol.
Meddai Dr Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
"Rwy'n hynod falch o Cheri a'r tîm am ennill y wobr haeddiannol hon. Mae ei harweinyddiaeth, ei menter a'i phenderfyniad wedi ein galluogi i wireddu'r prosiect pwysig hwn. Mae allgáu digidol yn fater real iawn i gymaint o deuluoedd yn ein cymunedau, ac mae'r prosiect hwn wedi galluogi mynediad cyfartal at wasanaethau digidol hanfodol ar adeg pan fo teuluoedd ei angen fwyaf."
Mae'r Banc Data Mamolaeth Cynhwysiant Digidol yn tynnu sylw at effaith a phŵer arloesi, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn uniongyrchol trwy gysylltedd digidol. Trwy hyrwyddo’r strategaeth 'Cymru Iachach' a blaenoriaethau CNO mewn modd sylweddol, mae'r prosiect wedi cyflwyno model arloesol a mesuradwy y gellir ei weithredu mewn mannau eraill, sydd â'r potensial i drawsnewid ansawdd, tegwch a hygyrchedd gofal mamolaeth ledled Cymru a thu hwnt.
Dywedodd Karen Jewell, Prif Swyddog Bydwreigiaeth Cymru:
"Llongyfarchaf Cheri Lewis a'r tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gynnes ar dderbyn Gwobr Gwella Ansawdd CNO Cymru a RCM ar gyfer 2025. Mae'r Banc Data Mamolaeth Cynhwysiant Digidol yn enghraifft ddisglair o arloesedd ar waith – cwrdd â menywod a theuluoedd lle maen nhw a sicrhau mynediad cyfartal at ofal a gwybodaeth hanfodol yn ystod un o deithiau pwysicaf bywyd.
"Mae allgáu digidol yn parhau i fod yn rhwystr fawr rhag cydraddoldeb iechyd, yn enwedig i'r rhai sy'n profi anfantais gymdeithasol ac economaidd. Trwy fynd i'r afael â thlodi data yn rhagweithiol, mae'r fenter hon yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn yn ymgorffori cynhwysiant digidol mewn gofal mamolaeth o'r cychwyn cyntaf. Mae'n cefnogi'n uniongyrchol ein gweledigaeth genedlaethol a nodir yn 'Cymru Iachach' a'r Datganiad Ansawdd Mamolaeth a Newyddenedigol, gan ddarparu gofal integredig, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n effeithiol, amserol a chynhwysol.
"Rwy'n arbennig o falch o weld y prosiect hwn yn cyd-fynd mor agos â'r cyfeiriad Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghymru a gwaith arall i wella canlyniadau a phrofiadau i bawb sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Mae'r fenter hon nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth amlwg heddiw ond hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer trawsnewid ehangach ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
"Mae'r wobr hon yn haeddiannol iawn ac yn adlewyrchu angerdd, ymrwymiad ac arweinyddiaeth ein gweithlu bydwreigiaeth yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld sut y gellir mabwysiadu hyn ar draws meysydd eraill i sicrhau nad oes unrhyw deulu yn cael ei adael ar ôl."
08/05/2025