Mae Andrea Croft, Uwch-ymarferydd Nyrsio Gwrthgeulo, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi ennill y wobr cyflawniad oes yng Ngwobrau VTE Thrombosis UK eleni.
Mae'r Gwobrau VTE (Thrombo-emboledd gwythiennol) yn dathlu ymarfer effeithiol, gwreiddiedig a chynaliadwy ar draws atal a rheoli VTE, gan osod diogelwch cleifion a chanlyniadau wrth wraidd gofal rhagorol.
Andrea yw'r person cyntaf erioed i dderbyn y wobr Cyflawniad Oes sy'n newydd sbon i'r rhaglen wobrwyo eleni. Casglodd ei gwobr mewn seremoni yn Nhŷ'r Senedd yr wythnos diwethaf.
Wrth siarad am dderbyn gwobr mor fawreddog, dywedodd Andrea:
“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd mawr na fyddwn wedi ei gyflawni heb gariad, cyfeillgarwch a chefnogaeth fy nheulu, ffrindiau a chyfoedion. rydw i wedi bod yn hynod lwcus i fod wedi gallu gwneud gwaith rydw i’n ei garu am y rhan fwyaf o fy ngyrfa nyrsio.
“Mae cael y cyfle i ddylanwadu ar ddiogelwch cleifion a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn lleol ac yn genedlaethol wedi bod yn heriol ac yn werth chweil iawn.
“Rydw i wedi bod yn ffodus i gwrdd a gweithio gyda rhai pobl anhygoel sy'n rhannu nodau tebyg i mi fy hun ac yn ysbrydoli eraill i newid eu syniadau a'u harfer gweithio er budd gofal cleifion. Yn y pen draw mae'r claf yng nghanol popeth rydw i’n ei wneud”.
Mae'r Wobr Cyflawniad Oes yn cydnabod cyfraniadau sylweddol ac effaith barhaol rhywun drwy gydol eu gyrfa a thrwy waith sylweddol i sefydlu dysgu, prosesu a gwelliant ar draws atal a rheoli thrombo-emboledd gwythiennol. Mae'n cydnabod ymroddiad, gwaith caled, a thalent, ac yn dathlu effaith gyffredinol person ac etifeddiaeth barhaol i gydweithwyr, darparwyr a chleifion
Eleni, croesawodd Gwobrau VTE lawer o geisiadau o bob cwr o'r DU, pob un yn dystiolaeth o safonau uchel, angerdd i weithredu a phenderfyniad i gyflawni'r gorau.
Cafodd Gwasanaeth Gwrthgeulo dan arweiniad Fferylliaeth Cwm Taf Morgannwg hefyd ei gydnabod yn y gwobrau am reolaeth amlawdriniaethol o wrthgeulyddion yn Adran Fferylliaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg (YBM).
22/05/2025