Mae tîm Hepatoleg Cwm Taf Morgannwg yn cynnal cyngor a phrofion iechyd yr afu am ddim mewn digwyddiadau ar draws ein cymunedau yr wythnos nesaf.
Bydd Uwch-ymarferydd Nyrsio Hepatoleg yn cynnig ffibrosganiau - sgan cyflym, di-boen, anfewnwthiol sy'n asesu'r afu am unrhyw lid neu greithiau ac yn edrych ar faint o fraster sydd yn yr afu. Darperir canlyniadau ar y pryd, ac os oes angen dilyniant pellach, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu.
Bydd profion cyfrinachol am ddim ar gyfer Hepatitis B a C ar gael hefyd.
Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
Digwyddiad galw heibio yw hwn - does dim trefnu apwyntiad.
Clefyd yr afu yw'r trydydd lladdwr mwyaf yn y DU, gyda llawer o afiechydon a all effeithio ar yr afu yn arwain at glefyd cronig yr afu, sirosis, methiant yr afu ac o bosibl canser yr afu.
Mae gordewdra, camddefnyddio alcohol a firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed ymhlith y ffactorau sy’n cyfrannu at ddatblygiad clefyd yr afu mewn pobl yng Nghymru.Mae Hepatitis B a C yn firysau a gludir yn y gwaed, sy’n cael eu trosglwyddo o berson i berson trwy ddod i gysylltiad â gwaed / hylifau corff heintiedig.
Does dim symptomau gan y rhan fwyaf o bobl, ac felly dydyn nhw ddim yn gwybod am yr haint. Os na chaiff ei drin, gall y firysau hyn arwain at glefyd cronig yr afu.
Mae gordewdra yn cynyddu’r risg o ddatblygu clefyd brasterog yr afu. Ymhlith y 25% o’r boblogaeth sy’n ordew yn y DU, bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw gyda chlefyd yr afu brasterog. Bydd afu llawer ohonyn nhw yn creithio ac yn llidio hefyd, a fydd yn arwain at sirosis.
Bydd yfed alcohol o fewn y canllawiau a mynd â seibiannau rheolaidd o alcohol yn helpu eich afu i aros yn iach.
30/09/2025