Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda’i gilydd, gyda phartneriaid eraill gan gynnwys y Gymdeithas Strôc, i gymryd camau pwysig i wneud gwasanaethau gofal strôc yn well i unrhyw un y mae strôc yn effeithio arnyn nhw ar draws De-Ganolbarth Cymru.
Mae cael strôc yn argyfwng meddygol difrifol sy'n gofyn am asesiad ar unwaith a thriniaeth frys.
Yn y DU, strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth a phrif achos anabledd oedolion, gan arwain at effeithiau enfawr ar annibyniaeth ac ansawdd bywyd pobl. Yma yng Nghymru, mae strôc yn effeithio ar tua 1,600 o bobl yn ardal Canol De Cymru bob blwyddyn, gyda 3,200 yn ceisio gofal ysbyty ar gyfer achosion posibl o strôc.
Rydym am wneud yn siŵr bod pobl sy’n cael strôc yn cael canlyniadau gwell ac yn gallu mwynhau’r bywyd gorau posibl ar ôl cael strôc. Er mwyn i hyn ddigwydd mae angen cyrraedd y gwasanaeth strôc cywir yn gyflym ac yn y lle iawn, a chael mynediad at gymorth adsefydlu ac adferiad effeithiol - yr enw am hyn yw llwybr strôc.
Mae pob rhan o’r llwybr strôc i gleifion yng Nghwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro yn cael eu hadolygu o dan raglen ranbarthol newydd o’r enw Rhwydwaith Cyflawni ar gyfer Strôc Canol De Cymru.
Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'r dyfodol yn diwallu anghenion ein poblogaeth, mae angen eich barn a'ch syniadau arnom ni. Rydym am glywed gan gleifion, gweithwyr gofal iechyd, ac unrhyw un sydd â phrofiad byw o strôc, neu sy'n poeni am ofal strôc.
Meddai Lauren Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd ac Arweinydd Gweithredol ar gyfer Strôc, “Rydym yn ymroddedig i wneud gofal strôc yn well ac achub bywydau. Rydym am wneud bywyd yn well i bobl sydd wedi cael strôc. Mae'r rhaglen hon yn gam pwysig yn y daith hon. Rydym yn siarad â meddygon ac arbenigwyr eraill sy'n gwybod llawer am strôc. Gallant ein helpu i wella gofal ac rydym eisiau gwybod beth yw eich barn a beth sydd ei angen arnoch."
Cymerwch ran
Os ydych chi neu rywun rydych yn gofalu amdano wedi cael strôc, rydym am glywed eich stori drwy gwblhau'r ffurflen fer
hon. Mae eich profiadau a'ch syniadau yn bwysig iawn. Gallant ein helpu i wneud gofal yn well i bobl fel chi.
Bydd llawer o gyfleoedd ymgysylltu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf; cyfleoedd i chi rannu eich profiadau a syniadau ar gyfer llunio gwasanaethau strôc yn y dyfodol ar gyfer y rhanbarth.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am raglen Rhwydwaith Cyflawni ar gyfer Strôc Canol De Cymru drwy ein dilyn ar ein Llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol. Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn: CTM.OurHealthOurFuture@wales.nhs.uk
04/10/2023