Dechreuodd Gwasanaeth Caplaniaeth y Bwrdd Iechyd, ynghyd â'n Gwasanaeth Celfyddydau mewn Iechyd a Thîm Gwella, brosiect gwella gyda'r nod o gefnogi pobl drwy alar, marwolaeth a cholled gan ddefnyddio'r celfyddydau creadigol yn ôl ym mis Hydref 2022.
Y gweithdy cymunedol, 'Canfod Gobaith mewn Colled a Phrofedigaeth' oedd y cyntaf o'i fath yng Nghwm Taf Morgannwg ac roedd yn gydweithrediad â'n partner CTM2030 - Prosiect Cymuned y Goleudy, a leolir yn Nhonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.
Dros chwe sesiwn, defnyddiodd Caplan CTM ac Arweinydd Prosiect Wendy Evans dulliau creadigol i alluogi cyfranogwyr i rannu meddyliau a theimladau am alar, colled a phrofedigaeth. Roedd hyn yn cynnwys delweddu creadigol, creu straeon, darlunio, ysgrifennu creadigol a cherddoriaeth.
Roedd adborth gan gyfranogwyr y gweithdy 6 wythnos yn dangos y byddai cefnogaeth barhaus yn werthfawr i gyfranogwyr ac i'r rhai nad oedden nhw’n gallu ymrwymo i raglen 6 wythnos ond oedd angen cefnogaeth.
Dywedodd Wendy: "Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio i dywys cyfranogwyr yn ddiogel, ar eu cyflymder eu hunain, ar daith o rannu a chefnogi. Yn ystod pob sesiwn, mae cyfle i fyfyrio am alar, marwolaeth a cholled, a all weithiau fod yn anodd ei drafod neu ei rannu ym mywyd beunyddiol.
"Rydym mor falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â'n cymuned leol, i dynnu sylw at fanteision y celfyddydau creadigol a gobeithio dod â gobaith i bobl sy'n cael eu heffeithio gan deimladau o golled a galar".
Mae 'Canfod Gobaith mewn Colled a Phrofedigaeth' a'r Caffis 'At a Loss' dilynol wedi tyfu ers i'n partneriaeth gymunedol gychwynnol ffurfio gyda'r Prosiect Goleudy ym mis Mawrth 2022, yn dilyn digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned i drafod gwaith ein Bwrdd Iechyd tuag at ein strategaeth sefydliadol – CTM2030: Ein hiechyd, ein dyfodol.
Os hoffech wybod mwy am y caffis neu os ydych yn credu y byddai hyn o ddiddordeb i'ch cymuned leol, cysylltwch â thimau Caplaniaeth a Gofal Ysbrydol Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Tywysoges Cymru neu Ysbyty'r Tywysog Siarl.