Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Ton o Oleuni 2024

Neithiwr fe wnaeth ein staff mamolaeth, gynaecoleg, newyddenedigol, profedigaeth, a chaplaniaeth arwain gwasanaethau Ton o Oleuni i anrhydeddu’r babanod rydyn ni wedi’u colli yn anffodus. Diolch i’r teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid a ymunodd â ni i’w cofio.

Rhannodd un teulu eu geiriau caredig: “Diolch i chi a’r tîm cyfan am drefnu rhywbeth mor brydferth. Moment i ganiatáu i rieni grio a galaru ar yr un pryd.”

Dywedodd Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth: “Mae dod ynghyd â’n tîm, teuluoedd a pherthnasau, i gofio’r babanod hynny sydd wedi marw yn rhy fuan yn rhywbeth pwysig iawn i ni fel bwrdd iechyd. Rydym yn sefyll ochr yn ochr â rhieni a theuluoedd yn eu galar a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi yn un o’r sefyllfaoedd anoddaf y gallan nhw ei hwynebu mewn bywyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall y bwrdd iechyd eich cyfeirio at gymorth, e-bostiwch ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk.

Hoffem hefyd ddiolch i Groves Gas yng Nghwmbrân am gyfrannu'r holl oleuadau te a ffyn glo ar gyfer digwyddiadau'r noson.

Diolch hefyd i The Mitchell Foundation am y canhwyllau a roddwyd i deuluoedd fynd adref gyda nhw. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus i CTM trwy ddarparu pethau ymolchi i deuluoedd sy'n colli babi yn ystod beichiogrwydd neu i'r rheiny sydd wedi colli babi yn rhy fuan ym mhob un o'n hysbytai

 

16/10/2024