Mae rhai cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn elwa oherwydd gwasanaeth digidol cyfleus sy’n caniatáu i bractisau meddygon teulu anfon presgripsiynau’n electronig i’r fferyllfa gymunedol neu’r dosbarthwr o’u dewis.
Mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) bellach yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o feddygfeydd o fewn ardal y bwrdd iechyd fel rhan o'i gyflwyno'n ehangach ledled Cymru.
Mae’r gwasanaeth yn nodi un o’r newidiadau mwyaf ers degawdau i’r ffordd y mae presgripsiynau’n cael eu rheoli yn GIG Cymru, gan wneud rhagnodi yn haws ac yn fwy diogel i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae EPS yn golygu bod presgripsiynau’n gallu cael eu hanfon yn electronig gan feddyg teulu neu ragnodwr arall i fferyllfa neu ddosbarthwr heb fod angen ffurflen bapur. Mae'n helpu i wella gofal cleifion a'i nod yw lleihau nifer y ffurflenni papur sy'n cael eu hargraffu gan GIG Cymru.
Meddygfa New ym Mhencoed oedd y feddygfa gyntaf yn ein bwrdd iechyd i ddechrau defnyddio EPS. Cefnogwyd y gweithredu gan ddwy fferyllfa Sheppards ym Mhencoed. Ers hynny, mae wedi mynd yn fyw mewn lleoedd pellach a gallwch weld y rhestr lawn yma .
Dywedodd Sarah Bradley, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen o ran gwella effeithlonrwydd a chywirdeb gofal cleifion. Drwy symleiddio’r broses ragnodi, rydyn ni nid yn unig yn lleihau’r posibilrwydd o wallau ond hefyd yn sicrhau bod ein cleifion yn cael gofal di-dor a chydgysylltiedig.”
Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Arweinydd EPS ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC): “Rwy'n hynod falch o weld EPS yn fyw ac o fudd i gymunedau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydyn ni bellach yn gweithio’n galed i’w gyflwyno i bob cymuned ledled Cymru cyn gynted â phosibl ac mor ddiogel â phosibl.”
Mae EPS yn rhan allweddol o raglen drawsnewid genedlaethol Moddion Digidol, a reolir gan IGDC.
Gydag EPS, nid oes angen i gleifion ymweld â'u meddygfa mwyach i gael ffurflen presgripsiwn rheolaidd. Gellir olrhain presgripsiynau o'r practis i'r dosbarthwr, sy'n golygu y gall staff weld bob amser ble mae presgripsiwn a dileu'r risg o ddarn o bapur yn cael ei golli.
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac yn fwy effeithlon a diogel. Nid oes angen i gleifion sydd am ddefnyddio EPS fynd ar-lein na defnyddio gliniadur neu ffôn clyfar. Yn syml, maen nhw’n dweud wrth staff yn eu practis meddyg teulu neu fferyllfa neu ddosbarthwr enwebedig yr hoffen nhw ddefnyddio’r gwasanaeth.
I ddarganfod mwy ewch i https://dhcw.nhs.wales/eps .
Gall staff gofal iechyd sydd â chyfeiriad e-bost y GIG hefyd gyrchu gwefan Sharepoint EPS ar https://nhswales365.sharepoint.com/sites/DHC_EPS .
29/10/2024