Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Nyrsio Ardal CTM yn lansio proses adborth cleifion newydd

Rydym yn gyffrous i lansio proses adborth newydd ar gyfer cleifion sy'n derbyn gofal gan ein Gwasanaeth Nyrsio Ardal.

Mae'r fenter hon wedi'i chynllunio i:

  • Grymuso cleifion gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i deimlo'n wybodus ac yn hyderus yn eu gofal;
  • Casglu adborth ystyrlon gan gleifion a'u hanwyliaid i'n helpu i adolygu a gwella'r gofal rydyn ni’n ei ddarparu yn barhaus.

Fel rhan o'r broses hon, bydd cleifion yn derbyn taflen yn egluro beth mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ardal yn ei gynnig, sut y byddan nhw’n cael eu cefnogi, a sut y gallan nhw rhannu eu hadborth. Mae'r daflen wedi'i chynllunio i fod yn gliriach, yn hygyrch, ac yn wirioneddol ganolog i'r claf, gyda ffocws ar symleiddio iaith feddygol, gwella'r cynllun ar gyfer darllenadwyedd, a sicrhau ei bod yn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin gan gleifion. Mae ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg a gellir cyflwyno adborth yn hawdd drwy sganio cod QR neu lenwi ffurflen bapur.

Yn ogystal â'n helpu i wella ein gwasanaethau, bydd yr adborth hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddathlu a chydnabod gwaith rhagorol ein staff ymroddedig ar draws cymunedau CTM.

Gwnaeth y gwasanaeth y sylwadau canlynol: “Rydym yn hynod falch o’r cam hwn tuag at gyfathrebu a phrofiad gwell i gleifion. Bydd yr arolwg yn caniatáu i'r cleifion sy'n gaeth i'w cartrefi, eu teulu neu ofalwr ddweud eu dweud am eu profiad o'r Gwasanaeth Nyrsio Ardal.

Mae hefyd yn gyfle gwych i dynnu sylw at y staff sy'n gweithio ar draws cymunedau CTM a rhoi'r gydnabyddiaeth lawn y mae nhw’n ei haeddu iddyn nhw.”

Dywedodd Ellie Buckley, Swyddog Cyswllt Profiad y Claf: “Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, rydw i wedi bod yn rhan weithredol o sefydlu arolygon Profiad y Bobl drwy ein system. Mae'r arolygon hyn yn offeryn hanfodol sy'n ein galluogi i gasglu profiadau cleifion, teuluoedd, gofalwyr, ffrindiau a staff, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.

Mewn cydweithrediad â'r tîm nyrsio cymunedol, rydym yn gweithio'n galed i wireddu eu gweledigaeth a sicrhau bod pob profiad yn bwysig. Drwy alinio'r gwaith hwn â Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werthoedd (VBHC), nid yn unig yr ydym yn gwrando ond yn defnyddio'r adborth hwn i yrru gwelliannau ystyrlon ar draws ein gwasanaethau. Mae'r mewnwelediadau rydym yn gasglu yn ein helpu i nodi meysydd lle gallwn wneud yn well, yn ogystal ag amlygu a dathlu beth rydym yn ei wneud yn dda.

Rydw i’n ddiolchgar am y cyfle i weithio gyda thîm mor ymroddedig a chefnogol ac rydw i’n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y gwaith hwn yn ei chael. Mae pob profiad yn bwysig, ac mae pob llais yn cyfrif.”

14/07/2025