Cynhelir gwasanaeth carolau Nadolig blynyddol BIPCTM i gofio ein hanwyliaid ar Ddydd Iau 4 Rhagfyr am 6.30yp yn Amlosgfa Glyn-taf, mewn cydweithrediad â gwasanaethau profedigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni i ganu carolau’r ŵyl ac i osod tagiau neges coffa ar y goeden Nadolig.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys perfformiad gan Gôr Cymuned Penderyn, a bydd Siôn Corn yn galw heibio i gyfarch y plant.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y gwasanaeth.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost: ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk
24/11/25