Mae ymchwil ddiweddaraf gan YouGov (ar ran Llywodraeth Cymru) yn dangos bod pobl ar draws cymunedau Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr / Merthyr / Rhondda Cynon Taf, yn dod i arfer â throi at Wasanaeth 111 GIG Cymru ar-lein, neu trwy'r llinell ffôn 111 pan fyddan nhw’n dost, a hynny cyn mynd i unrhywle arall. Mae'r defnydd hwn o Wasanaeth 111 GIG Cymru yn helpu cleifion i ddod o hyd i’r gwasanaethau yn y GIG sydd eu hangen arnyn nhw, a hynny yn gyflymach ac yn fwy hwylus.
Mae Gwasanaeth 111 GIG Cymru yn ffordd fwy effeithlon o gael gafael ar ofal iechyd a chyngor ar gyfer cyflyrau brys ar draws yr ardal, lle nad yw’r cyflyrau hyn yn peryglu bywyd.
Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu pobl i wirio eu symptomau trwy’r gwiriwr symptomau ar-lein, sydd wedyn yn eu helpu i ddod o hyd i’r cymorth priodol. Gall y gwiriwr symptomau ar-lein gyfeirio unigolion i'r lle iawn yn dibynnu ar eu hanghenion iechyd, yn seiliedig ar y wybodaeth mae’r defnyddiwr yn ei darparu. Gallai hyn gynnwys y fferyllfa, yr Uned Mân Anafiadau neu wasanaeth arall fel meddyg teulu. Fel arall, gall cleifion ffonio'r rhif 111 (sy’n rhad ac am ddim) i gael cyngor tebyg dros y ffôn, a lle bo angen, bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ffonio’n ôl.
Canfyddiadau allweddol am gymunedau Cwm Taf Morgannwg:
Dywedodd Dr Owen Weeks, Cyfarwyddwr Clinigol Dros Dro ar gyfer Gofal Sylfaenol Brys yn BIP CTM:
“Mae ymddiriedaeth pobl mewn ymgynghoriadau ar-lein a dros y ffôn ar gyfer gofal heblaw gofal brys yn hollbwysig i sicrhau bod ein cymunedau’n gallu dod o hyd i’r gwasanaeth GIG iawn ar eu cyfer, a hynny yn gyflymach. Mae sicrhau bod pobl yn gyffyrddus yn gwirio eu symptomau ar-lein, a’u bod yn cael help i ddewis yr opsiwn iawn o blith yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael gan y GIG, yn gyfle gwirioneddol i wella gofal a thriniaeth amserol a phriodol .
“Gall fod yn ddryslyd ac yn anodd gwybod beth yw’r llwybr gorau: os yw’n peryglu bywyd, dylai cleifion ffonio 999. Os yw’n broblem gyson, dylai cleifion gysylltu â'u darparwr gofal iechyd arferol. Os yw cleifion yn ansicr, gallan nhw ddefnyddio gwefan Gwasanaeth 111 GIG Cymru, y gwiriwr symptomau neu’r llinell ffôn i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.
“Dylai defnyddio GIG 111 Cymru hefyd leihau’r nifer o bobl sy’n ffonio 999 er nad oes argyfwng, gan sicrhau y gall ein criwiau ambiwlans gyrraedd y cleifion hynny â salwch neu anaf difrifol sydd angen triniaeth cyn gynted â phosibl.”
Beth yw GIG 111 Cymru?
Pryd ddylwn i ei ddefnyddio?
Pa fath o gyngor y bydda i’n ei gael ar y ffôn?
Beth os yw'n argyfwng?
|
Nodiadau'r golygydd
Daw'r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, gan YouGov. Cyfanswm maint y sampl oedd 1000 o oedolion. Gwnaed y gwaith maes rhwng 16-20 Ebrill 2021. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigurau wedi'u pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o holl oedolion Cymru (18+).