Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith atgyweirio to brys i ddigwydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru

Yn dilyn problemau parhaus yn Ysbyty Tywysoges Cymru gyda dŵr glaw yn dod i mewn i'r adeilad drwy'r to, mae contractwyr arbenigol wedi cynnal arolwg llawn o gyflwr to'r prif adeilad ar draws y safle.

Yn ogystal â llywio rhai camau gweithredu ar unwaith, mae'r arolwg hwnnw wedi nodi difrod hirdymor mewnol mwy difrifol i do'r ysbyty a fydd yn gofyn am raglen helaeth o adnewyddu ac atgyweirio.

Rydym yn delio â hyn fel digwyddiad critigol, ac rydym bellach yn archwilio pob opsiwn i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gofal mewn amgylchedd diogel i'r cleifion a'r staff hynny sydd ar hyn o bryd yn ein wardiau a'r rhai y bydd angen gofal arnynt yn y dyfodol. Bydd angen i'r opsiynau gynnwys defnyddio cyfleusterau'r bwrdd iechyd cyfan i sicrhau bod gennym y gallu i ddiwallu anghenion ein holl gleifion.

Rydym yn trin y gwaith hwn fel blaenoriaeth a byddwn yn parhau i gyfathrebu â phobl yn uniongyrchol a thrwy'r ystod o sianeli sydd ar gael i ni.

Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Diogelwch ein staff a'n cleifion ar y safle yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac rydym yn cymryd camau ar unwaith i ddod â'r to, sydd yn fwy na 40 oed, i safon dderbyniol a modern.

"Rydym yn llwyr werthfawrogi sut mae hyn yn peri pryder ac yn tarfu ar gleifion a'u teuluoedd, ond rydym wedi ymrwymo i roi'r cynlluniau hyn ar waith i sicrhau bod ein cleifion yn parhau i gael gofal priodol a diogel.

"Bydd hyn yn golygu bod rhai o wasanaethau'r bwrdd iechyd a gofal yn cael eu darparu mewn man gwahanol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio trwy'r opsiynau hyn i sicrhau bod hyn yn achosi cyn lleied o darfu â phosibl ar gleifion.

"Er bod hon yn sefyllfa sylweddol, dydy symud cleifion ddim yn anarferol - mae'n digwydd yn rheolaidd i alluogi cleifion i dderbyn sganiau, neu dderbyn triniaeth. Mae ein staff wedi hen arfer ymateb yn gyflym i sicrhau parhad gofal cleifion yn ystod cyfnod heriol."

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynghori pobl y dylent barhau i fynychu apwyntiadau wedi'u trefnu yn yr ysbyty oni bai bod y bwrdd iechyd yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol. Maent hefyd yn atgoffa pobl y gallant ein helpu yn ystod y cyfnod prysur hwn trwy fynychu'r adran frys dim ond os yw eu cyflwr yn hanfodol neu'n peryglu bywyd.

10/10/2024