Mae Tîm Ystadau Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn gweithio’n galed i adfywio’r eglwys hanesyddol ar safle Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r tîm wedi gweithio’n galed ar y prosiect adfywio, oedd yn cynnwys trwsio’r to ar y tu mewn a’r tu allan, yn ogystal â thrwsio, ail-bwyntio, llenwi a phaentio’r waliau. Mae eu hymdrechion wedi rhoi bywyd newydd i’r eglwys.
Cyn gorffen y gwaith hwn, roedd yr eglwys yn anniogel, yn ddiddefnydd, ac roedd rhannau o’r to’n cwympo. Erbyn hyn, mae modd i aelodau o’r staff ddefnyddio’r eglwys brydferth at sawl diben.
Diolch yn fawr iawn i bawb weithiodd ar y prosiect.