Neidio i'r prif gynnwy

Gwahoddiadau parti gardd frenhinol i anrhydeddu Staff BIP Cwm Taf Morgannwg

Cafodd Lloyd Griffiths (Pennaeth Nyrsio Iechyd Meddwl) o Gwm Taf Morgannwg, Mohamed Elnasharty (Ymgynghorydd, Obstetreg, Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol), Zoe Barber (Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron) a Deborah Matthews (Pennaeth Nyrsio) gwahoddiad i barti Gardd Frenhinol ym Mhalas Buckingham yn gynharach y mis hwn.

Roedd y parti gardd yn cynnwys te prynhawn, dau fand milwrol a chynrychiolaeth gan y Brenin Siarl, Consort y Frenhines Camilla, y Dywysoges Anne a Sophie, Iarlles Wessex.

Cafodd Zoe Barber ei gwahodd am arwain datblygiad Llwybr Canser y Fron Metastatig Cymru - llwybr canser metastatig pwrpasol cyntaf y DU.

Cafodd Mohamed Elnasharty ei gwahodd am arweinyddiaeth ac ymdrechion yn y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol wrth i ni lwyddo i gael ein llacio o fesurau risg

Cafodd Lloyd Griffiths ei gwahodd i gynrychioli'r tîm yn Nhŷ Llidiard am y gwaith yr oedden nhw wedi'i wneud i wella profiad cleifion yn yr uned. 

Cafodd Deborah Matthews ei henwebu am 40 mlynedd o wasanaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dywedodd Zoe “Roeddwn yn falch iawn o gael gwahoddiad i fynychu barti gardd Frenhinol ar gyferarwain datblygiad Llwybr Canser y Fron Metastatig Cymru – llwybr canser metastatig pwrpasol cyntaf y DU. Roedd y llwybr hwn yn waith tîm mawr o glinigwyr, partneriaid trydydd sector a chleifion a’i nod yw gwella a safoni gofal canser metastatig y fron ledled Cymru a’r DU.”

Dywedodd Mohamed: “Roedd yn anrhydedd mawr cael fy enwebu a’m gwahodd i barti gardd Frenhinol. I mi, roedd yn teimlo fel camu i freuddwyd wedi’i haddurno â phetalau braint a sibrydion gras.”

Dywedodd Deborah “Roeddwn wrth fy modd yn mynychu digwyddiad mor fawreddog ochr yn ochr â’m cydweithwyr eraill yn CTM. Gwnaeth yr achlysur i mi deimlo’n falch iawn o fod yn nyrs a rhoddodd gyfle i mi fyfyrio ar y profiadau a gefais trwy gydol fy ngyrfa hir. Dw i’n gwybod fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth i’r cleifion rwyf wedi gofalu amdanyn nhw, ochr yn ochr â’u teuluoedd, yn ogystal ag ennill ffrindiau anhygoel a chydweithwyr agos bob cam o’r ffordd.”

Deb Matthews

 

20/05/2024