Lai na phum mis ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau’n swyddogol ar Fferm Solar Coed-elái, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Rhondda Cynon Taf, a Vital Energi yn dathlu filltir arwyddocaol wrth i’r olaf o’r 9,400 o baneli solar wedi cael eu gosod mewn pryd ar gyfer Diwrnod y Ddaear a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2025.
Mae’r fferm yn chwarae rhan sylweddol yn natgarboneiddio’r cyngor gan y bydd yn allforio 5MW o drydan glân i’r grid, ond bydd hefyd yn helpu i leihau ein hallyriadau gan y byddem yn derbyn 1MW o bŵer carbon isel drwy gytundeb prynu pŵer arloesol.
Dywedodd Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid ac Arweinydd Gweithredol Datgarboneiddio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Rydym wrth ein bodd y bydd yr ysbyty cyfan yn cael ei bweru gan ynni’r haul ar ddiwrnodau brig yr haf. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein hymrwymiadau datgarboneiddio a ‘Green CTM’ a sut y gallwn ddarparu gofal iechyd mewn modd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Fodd bynnag, nid yw'r cynllun hwn yn ddiwedd y stori yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a byddwn yn darparu mwy o ynni adnewyddadwy a thechnolegau carbon isel yn y dyfodol i ddatgarboneiddio gofynion ynni'r ysbyty ymhellach.
Yn ogystal, rydym yn falch o weithio gyda’n partneriaid yn Cyngor RhCT a chredwn fod y cynllun hwn yn enghraifft wych o gydweithio cadarnhaol a gweithio mewn partneriaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod Lleol.”
Meddai’r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a Newid Hinsawdd: “Mae thema Diwrnod y Ddaear eleni, ‘Ein Grym, Ein Planed’, yn ceisio ynni adnewyddadwy. Gyda’r gosodiad paneli solar bron wedi’i gwblhau, dyma’r amser perffaith i ddathlu’r cyflawniad hwn. Mae’n ysbrydoledig i weld mentrau tebyg ledled y byd, tra’n ein gyrru tuag at blaned lanach. Rydyn yn falch i fod yn rhan o’r symudiad hwn.
“Trwy gyflenwi trydan carbon isel i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rydyn ni'n helpu i leihau ei ôl troed carbon, gan wneud y prosiect hyd yn oed yn fwy buddiol a chyflenwi ein GIG lleol yn uniongyrchol."
“Yn ogystal â hynny, gan nad yw'r domen lo wedi'i hadfer, sydd ar y safle, yn addas ar gyfer amaethyddiaeth, mae'r prosiect yma'n dangos sut y gall tir gael ei ailbwrpasu ar gyfer ynni glân wrth fod yn gymorth i fioamrywiaeth ar yr un pryd. Bydd hawliau pori anifeiliaid yn parhau, gan ddangos bod prosiectau ynni solar yn gallu bodoli ochr yn ochr â ffermio i wella bioamrywiaeth.”
Mae’r fferm solar wedi’i lleoli ar hen safle glofa ac yn cael ei darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth â Vital Energi, Hydrock, a Rhomco. Mae’n fenter graidd i helpu’r cyngor i gyrraedd ei dargedau carbon niwtral erbyn 2030.
Dywedodd llefarydd ar ran Vital Energi: “Er bod gwaith i'w wneud o hyd cyn i'r fferm solar gael ei egni, mae'r garreg filltir hon yn cynrychioli prosiect trawsnewidiol a fydd yn lleihau allyriadau carbon yn sylweddol i'r cyngor a'r bwrdd iechyd. Un o'n llwyddiannau allweddol yw cydweithio â sefydliadau lleol i wneud y mwyaf o greu swyddi, gwariant lleol a chyfleoedd hyfforddi - gan sicrhau bod y prosiect hwn yn darparu manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol i'r gymuned gyfagos."
Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi creu deg swydd leol ac wedi cynhyrchu dros £600,000 o wariant gyda busnesau a chyflenwyr lleol. Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n galed i wella bioamrywiaeth drwy blannu perthi a gosod pyst gwenyn, blychau adar, a blychau ystlumod.
Bydd Fferm Solar Coed Elái yn darparu digon o ynni i bweru tua 8,000 o gartrefi bob blwyddyn tra’n cyflenwi trydan carbon isel yn uniongyrchol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg drwy rwydwaith gwifrau preifat dros dri chilometr. Mae’r dull arloesol hwn yn sicrhau bod hyd at 15% o alw blynyddol yr ysbyty am drydan yn cael ei ddiwallu’n gynaliadwy gan godi i 100% ar ddiwrnodau brig yr haf.
23/04/2025