Rydym yn credu ei bod yn bwysig mynd i'r afael â rhywfaint o wybodaeth anghywir sydd wedi'i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch darparu gwasanaethau gofal lliniarol yn Ysbyty Cwm Cynon.
Byddwn yn parhau i ofalu am gleifion diwedd oes ar y safle – y newid yw o amgylch Gofal Lliniarol Arbenigol. Dim ond nifer fach iawn o bobl sydd angen y math hwn o ofal arbenigol, gyda'r mwyafrif angen cymorth diwedd oes cyffredinol gartref neu mewn gwelyau ysbyty cymunedol cyffredinol, gan gynnwys yn Ysbyty Cwm Cynon.
Rydym yn gwrando ar ein cleifion a'u teuluoedd, ac rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl eisiau treulio eu dyddiau olaf gartref gydag anwyliaid. Mae darparu mwy o ofal diwedd oes yn y gymuned, pan fo hyn yn briodol ac yn ddiogel, yn ein galluogi i gyflawni dymuniadau'r cleifion hyn.
Cwestiynau Cyffredin