Neidio i'r prif gynnwy

Gofal iechyd sy'n cael ei bweru gan olau haul: Ynni glân yn cyrraedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae'r amser yn nesu at actifadu'r Fferm Solar Coed-Elái yn llawn, gyda'r safle ar fin agor yn swyddogol diwedd y mis hwn (Medi 2025). Fodd bynnag, mae carreg filltir bwysig wedi'i chyrraedd hyd yn oed yn gynt: o heddiw, bydd y fferm solar yn dechrau cyflenwi trydan carbon isel yn uniongyrchol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg (RGH).

Mae hyn yn nodi pennod newydd yn nhaith cynaliadwyedd ein bwrdd iechyd, gydag ynni glân bellach yn trosglwyddo i'r ysbyty trwy gebl tri cilomedr pwrpasol.

Ariennir Fferm Solar Coed-Elái gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae profion helaeth wedi'u cynnal i sicrhau bod systemau'r ysbyty yn gallu derbyn a gweithredu gyda'r ffynhonnell ynni newydd yn ddiogel. Cynhaliwyd a pasiwyd y prawf cyntaf llwyddiannus ym mis Gorffennaf gan y Grid Cenedlaethol, gan baratoi'r ffordd ar gyfer actifadu a monitro graddol ym mhob cam.

Mae'r holl waith ffisegol ar safle Coed-Elái bellach wedi'i gwblhau, ac ni fydd y trawsnewid i ynni solar yn achosi unrhyw aflonyddwch ar safle'r ysbyty. Mae'r broses troi ymlaen yn cael ei rheoli'n ofalus mewn cydweithrediad ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda staff yn barod yn ystod y trosglwyddiad cyntaf i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.

Olrhain yr effaith
Er bod union ffigurau yn dal i gael eu cwblhau, bydd y Bwrdd Iechyd yn gallu monitro faint o ynni sy'n cael ei gyflenwi o'r diwrnod cyntaf. Bob mis byddwn yn derbyn dadansoddiadau manwl o'r defnydd o ynni, gan helpu i olrhain cyfraniad y fferm solar at anghenion pŵer yr ysbyty.

Ar ddiwrnodau brig yr haf, disgwylir i'r fferm solar fodloni 100% o alw trydan yr ysbyty, gyda chyfraniad blynyddol cyfartalog o 15% - cam sylweddol tuag at ein amcanion datgarboneiddio.

Dywed Claire Thompson, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid:

"Mae hon yn foment nodedig i'n Bwrdd Iechyd ac i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae troi ynni solar ymlaen yn fwy na chyflawniad technegol yn unig - mae'n symbol o'n hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd blaengar a chynaliadwy.

"Rydym yn falch o fod yn rhan o brosiect sydd nid yn unig yn lleihau ein hôl troed carbon ond hefyd yn cryfhau ein partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Vital Energi. Dim ond dechrau ein taith tuag at ddyfodol gwyrddach yw hwn.

Diolch o galon i ymroddiad a gwaith caled pob un o’n cydweithwyr er mwyn gwneud y garreg filltir hon yn bosibl."

Darllenwch am ein gwobrau cynaliadwyedd diweddar: https://ctmuhb.nhs.wales/news/latest-news/ctmuhb-wins-three-nhs-sustainability-awards/

Dywedodd y Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a Newid yn yr Hinsawdd: "Mae heddiw yn ddiwrnod cyffrous i'r fferm solar ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r garreg filltir hon yn gweld yr holl waith caled yn talu ar ei ganfed wrth i Ysbyty Brenhinol Morgannwg dderbyn ei hwb cyntaf o bŵer o'r fferm solar. Mae'r prosiect uchelgeisiol hwn yn darparu cyfle unigryw i ddarparu ynni gwyrdd ar raddfa sylweddol, gan fwydo ynni'n uniongyrchol i'r Grid Cenedlaethol a chefnogi diogelwch ynni ein cymuned a'r DU."

"Drwy gyflenwi trydan carbon isel i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rydym yn helpu i leihau ei ôl troed carbon, gan wneud y prosiect hyd yn oed yn fwy buddiol ac yn cyflenwi'n GIG lleol yn uniongyrchol."

Rhannodd Mark Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Vital Energi: "Mae gweld ynni glân, carbon isel yn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fwy na chyflawniad technegol yn unig, mae'n arddangosiad o sut y gall y sector cyhoeddus gydweithio i gyflawni ei nodau sero net.  Mae hwn yn ychwanegiad gwych arall at seilwaith ynni carbon isel Cymru ac yn un a fydd yn cyfrannu at ddyfodol glanach, mwy cynaliadwy i bawb.

"Hoffem longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gynllun gweledigaethol a greodd sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio y gellir ei ailadrodd ledled Cymru a thu hwnt."

Nodiadau i Olygyddion:
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn cefnogi cyflawniad y pum cenhadaeth genedlaethol sydd gan llywodraeth y DU: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhob man, gyda ffocws penodol i helpu i roi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o'r DU.

22/09/2025