Mae tîm Galar BIP CTM yn cydweithio â 2Wish Cymru i gynnal digwyddiad galaru Gobaith ar Ôl Colled am ddim ar Ddydd Llun Rhagfyr 1af (9yb - 4yp) yng Nghanolfan Busnes Orbit, Merthyr Tudful, CF37 4TS.
Mae’r digwyddiad, sydd wedi’i gefnogi gan Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg, ar agor i unrhyw un sy’n byw yn ardal BIP CTM, yn ogystal â staff a sefydliadau’r trydydd sector. Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau a sgyrsiau gan:
Bydd stondinau gwybodaeth hefyd gan sefydliadau sy’n cynnig cefnogaeth profedigaeth, gan gynnwys:
Dywedodd Donna Morgan (Arweinydd Clinigol Profedigaeth, BIP CTM):
“Mae profedigaeth yn effeithio ar bawb, ac mae colli anwylyn yn gallu gwneud i bobl deimlo’n ynysig iawn. Gobeithiwn, drwy gynnal y digwyddiad hwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Galar, y gallwn dynnu sylw at y gefnogaeth, y gofal a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan BIPCTM a’n partneriaid. Ein nod yw sicrhau bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan brofedigaeth ar draws BIP CTM yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma: https://register.enthuse.com/ps/event/HopeAfterLoss2025
20/11/2025