Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn grymuso'r cyhoedd gydag apiau atal a rheoli diabetes am ddim

Mae tri ap pwerus bellach ar gael i fynd i'r afael â her gynyddol diabetes Cymru – sy’n ategu rhaglen wyneb yn wyneb lwyddiannus sydd eisoes wedi helpu dros 10,000 o bobl.

Mae GIG Cymru wedi buddsoddi mewn trwydded ledled Cymru ar gyfer tri ap arloesol sy'n cefnogi atal diabetes Math 2 i'r rhai sydd mewn perygl uchel a hunanreolaeth i'r rhai sydd eisoes wedi cael diagnosis.

Mae ffigurau diweddar a ryddhawyd gan Diabetes UK Cymru yn datgelu realiti sy’n peri pryder: Mae gan 555,228 o bobl yng Nghymru – neu un o bob pump o oedolion – ddiabetes neu gyn-ddiabetes ar hyn o bryd.

Mae'r apiau'n cael eu hariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o'r Rhaglen Mynd i'r Afael â Diabetes Gyda'n Gilydd, sy’n dangos ymrwymiad i gyflymu mentrau a all helpu i atal diabetes Math 2 a gwella ansawdd a hyd bywyd pawb sy'n byw gyda diabetes ledled Cymru.

Mae'r datrysiadau digidol yn ategu Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP) lwyddiannus, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022 ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen wyneb yn wyneb hon yn cefnogi pobl sydd mewn perygl uchel o ddatblygu diabetes Math 2 ac mae eisoes wedi helpu dros 10,000 o bobl ledled Cymru.

Caiff AWDPP ei gyflwyno'n lleol mewn gofal sylfaenol gan dimau ymroddedig o weithwyr cymorth gofal iechyd hyfforddedig a deietegwyr, sy'n gweithredu mewn 35 allan o 60 o glystyrau gofal sylfaenol ledled Cymru. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn cefnogaeth bersonol i wneud newidiadau deietegol, cynyddu gweithgarwch corfforol, a chynnal pwysau iach.

Dywedodd Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae gallu unigolyn sy'n byw gyda diabetes Math 2 i hunanreoli ei gyflwr yn hanfodol er mwyn iddo allu byw'n iach ac am hirach. Ar gyfartaledd, dim ond 3 awr y flwyddyn y mae unigolyn â diabetes yn ei dreulio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac 8,757 awr yn rheoli ei gyflwr ar ei ben ei hunan. I wneud hyn yn effeithiol, mae cefnogaeth gyson yn hanfodol.

"Amcangyfrifir bod 269,747 o bobl yng Nghymru hefyd yn byw gyda hyperglycemia nad yw'n ddiabetig – a elwir yn fwy cyffredin yn 'gyn-ddiabetes' – ac nid yw llawer yn ymwybodol bod ganddyn nhw'r cyflwr. Heb ymyrraeth, gall hyn ddatblygu i fod yn ddiabetes Math 2. I'r rhai a ddatblygodd ddiabetes yn ystod beichiogrwydd, mae'r risg yn cynyddu'n sylweddol – mae ganddyn nhw siawns 50% yn uwch o ddatblygu diabetes Math 2 ymhen 3-5 mlynedd os na chymerir mesurau ataliol. Y newyddion da yw, gyda'r gefnogaeth gywir, y gellir gohirio diabetes Math 2 a'i fod yn ataliadwy i raddau helaeth."

Mae'r apiau'n cynnig nodweddion cynhwysfawr sydd wedi'u cynllunio i rymuso defnyddwyr, sy’n cynnwys:

  • Dangosfyrddau olrhain wythnosol i fonitro cynnydd
  • Modiwlau dysgu rhyngweithiol ar reoli diabetes
  • Olrhain gweithgarwch i annog symudiad iach
  • Swyddogaeth 'Gofyn i'r arbenigwr' sy'n darparu cyngor gan dîm amlddisgyblaethol o glinigwyr
  • Gosod nodau a heriau i gefnogi eich cymhelliant
  • Mynediad at gymuned diabetes gefnogol o dros 30,000 o bobl sy'n rhannu profiadau
  • Gall defnyddwyr hefyd wahodd ffrindiau a theulu i ymuno â nhw ar y platfformau, a fydd yn creu rhwydwaith cefnogol y mae ymchwil yn dangos ei fod yn gwella canlyniadau'n sylweddol.

Sut i gael mynediad at yr apiau a'r gwasanaethau am ddim

Gall unrhyw un yng Nghymru lawrlwytho'r apiau yn rhad ac am ddim drwy lenwi ffurflen gais ar-lein syml:

·       MyDESMOND Cymru - ar gyfer pobl sydd â diagnosis Math 2

·       Let's Prevent Cymru - ar gyfer pobl sydd â chyn-ddiabetes neu sydd â diabetes yn ystod beichiogrwydd

Bydd angen eich rhif GIG arnoch, sydd i'w gael ar ap GIG Cymru, presgripsiwn diweddar, llythyr apwyntiad neu drwy ofyn i'ch practis meddyg teulu.

I gael mynediad at raglen wyneb yn wyneb Atal Diabetes Cymru Gyfan, siaradwch â'ch meddyg teulu a all eich atgyfeirio os ydych mewn perygl uchel o ddatblygu diabetes Math 2.

Ychwanegodd Dr Julia Platts, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru: “Dylai pobl â diabetes gael mynediad at adnoddau i fyw bywydau iach. Mae hyn yn cynnwys adnoddau i helpu i atal diabetes pan fo hynny'n bosibl ac adnoddau i helpu diabetes i wella lle bo hynny'n bosibl. I'r rhai sy'n byw gyda diabetes, mae gofal cynnar da yn bwysig iawn; mae hyn yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer hunanreoli, mynediad at feddyginiaeth effeithiol a mynediad cynnar at dechnolegau sydd wedi'u profi i wella canlyniadau corfforol a llesiant.

Cafodd y Rhaglen Mynd i'r Afael â Diabetes Gyda'n Gilydd ei sefydlu ym mis Ebrill 2024 ac mae’n cael ei noddi gan Fwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd GIG Cymru. Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r prif bartner o ran dod â'r system diabetes yng Nghymru at ei gilydd ac arwain newid. 

Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Mynd i'r Afael â Diabetes Gyda'n Gilydd: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/rhaglen-datrys-diabetes-gydan-gilydd/

 

 

27/06/2025