Mae BIP Cwm Taf Morgannwg wrthi’n chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf i ymuno â’i Banel Partneriaeth.
Mae’r Panel yn gyfle i aelodau o’r Bwrdd Iechyd a’r gymuned leol ddod ynghyd i edrych ar fodelau o ofal ar gyfer y gwasanaethau brys, mân anafiadau ac anhwylderau yn RhCT, ac i ystyried sut i leihau gorddibyniaeth ar Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae'r Panel, gafodd ei sefydlu ddiwedd 2020, wedi cyfarfod sawl gwaith ac rydyn ni’n awyddus i glywed gan fwy o 2 aelodau'r gymuned ynglŷn â sut gallwn ni weithio mewn partneriaeth i edrych ar y problemau hyn a sut mae modd annog pobl i gymryd cyfrifoldeb personol dros y ffordd maen nhw’n defnyddio gwasanaethau brys.
Bydd gofyn i aelodau o'r panel rannu gwybodaeth o'r gymuned, gan gynnwys:
· Tynnu sylw at unrhyw broblemau lleol o ran y ffordd maen nhw’n defnyddio’r gwasanaethau brys a gwasanaethau mân anafiadau ac anhwylderau ar hyn o bryd, a’r rhesymau dros hynny;
· Rhannu awgrymiadau a phrofiadau er mwyn gweld pa gamau y gellid eu cymryd i wella mynediad pobl at wasanaethau, ansawdd gwasanaethau a phrofiad pobl o ddefnyddio’r gwasanaethau hyn;
· Syniadau am sut i wireddu newidiadau i ymddygiad o ran defnyddio gwasanaethau brys, er mwyn lleihau’r nifer o achosion o ddefnyddio’r gwasanaethau hyn yn amhriodol.
Dylai Aelodau o’r Panel:
· Fod yn byw yn ardal RhCT;
· Fod â diddordeb mewn meithrin gwell dealltwriaeth o ddefnyddio gwasanaethau brys a gwasanaethau mân anafiadau ac anhwylderau, a sut y gellir gwella arnyn nhw;
• Fod yn meddu ar y gallu (o ran amser a thechnoleg) i fynychu cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb yn rheolaidd (bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd ond rydyn ni’n gobeithio gallu cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb rywbryd yn y dyfodol);
· Barchu a chadw cyfrinachedd pan fyddan nhw’n rhan o drafodaeth, yn ysgrifenedig neu ar lafar, am gleifion a gwasanaethau, a dylen nhw barchu a chadw cyfrinachedd pan fydd gofyn iddyn nhw wneud hynny hefyd.
Ar hyn o bryd mae'r Panel yn cyfarfod bob tri mis ac mae’r cyfarfodydd yn para rhyw awr a hanner. Byddem ni’n croesawu unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r Panel. Os ydych chi am wybod mwy neu ddod yn aelod, e-bostiwch CTM.CommsAndEngTeam@wales.nhs.uk
Sylwch, dim ond preswylwyr RhCT sy’n cael bod yn aelod o’r Panel Partneriaeth ar hyn o bryd. Os ydych chi’n breswylydd neu’n gynrychiolydd sy’n byw y tu hwnt i RhCT, ond mae diddordeb gyda chi mewn cydweithio â’r Bwrdd Iechyd, rhowch wybod i ni a gallwn ni roi gwybodaeth i chi am gyfleoedd eraill.