Neidio i'r prif gynnwy

Elusen GIG CTM yn cefnogi ystafell egwyl a lle lles newydd ar gyfer staff

Mae Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg wedi ariannu a chefnogi creu ystafell egwyl bwrpasol newydd sbon i staff a lle lles ar gyfer Staff yr Adran Argyfwng yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful.  

Mae’r ystafell egwyl yn lle newydd a chafodd ei greu fel rhan o’r gwaith adnewyddu parhaus yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, ac mae’n cynnwys cyfleusterau cegin, byrddau, cadeiriau a seddau cyfforddus.   

Cafodd y prosiect ei harwain gan Gydlynwyr Caffael ECC, Jacqueline Coles a Lynne Jennings a chafodd ei gefnogi gan aelodau staff lleol eraill, a oedd am hybu lles staff, a chreu ardal lle gallai staff ymlacio, lleihau straen, a gorffwys yn ystod eu sifftiau.    

Ariannodd yr elusen hefyd y gwaith o greu lle lles aml-swyddogaeth, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mentora, ôl-drafodaethau tîm, a meithrin cysylltiadau o fewn yr adran.  Mae'r ardal les, a gydlynwyd gan Dr Nathan Ivey, yn cynnwys seddau soffa cyfforddus, cyfleusterau gwneud coffi, planhigion, a golau naturiol. Mae pethau ymolchi hanfodol, fel past dannedd, diaroglyddion, a chynhyrchion mislif hefyd yn cael eu darparu i gefnogi staff yn ystod shifftiau hir. 

Derbyniodd yr ardal les newydd gefnogaeth hael gan fusnesau lleol gan gynnwys: Too Good to Waste, Aberdâr; Paul Parker; B&Q Aberdâr (Rob Nicholas); Asda Aberdâr (Julie Cook, Hyrwyddwr Cymunedol); a Trago Mills. 

Dywedodd Rob Foley, Rheolwr Ysbyty’r Tywysog Siarl: “Mae gweithio ym maes gofal brys yn hynod o feichus, ac mae'n hanfodol bod gan ein staff le cyfforddus lle gallan nhw gamu i ffwrdd, hyd yn oed os mai dim ond am gyfnod byr. Bydd yr ystafell staff newydd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran cefnogi lles y tîm, gan ganiatáu iddyn nhw ymlacio cyn dychwelyd i’w dyletswyddau.” 

 
Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusen BIP CTM: “Mae dros 140 o staff yn y Ganolfan Gofal Brys yn Ysbyty’r Tywysog Siarl bellach yn gallu defnyddio’r ystafell egwyl a’r lle lles newydd sbon. Mae staff y Bwrdd Iechyd yn wynebu heriau rhyfeddol bob dydd felly roeddem wrth ein bodd y gallai ein helusen helpu i wneud gwahaniaeth a dod â’r prosiectau hyn yn fyw. Mae pob prosiect sy’n cael ei hariannu gan Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg yn bosibl diolch i haelioni’r gymuned ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd rydyn ni wedi derbyn.” 

Mae Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg yn cefnogi staff a chleifion y GIG ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a Rhondda Cynon Taf drwy ddarparu cymorth y tu hwnt i beth gall y GIG ei ddarparu.  

Os hoffech drafod prosiect tebyg neu ddysgu mwy am gefnogi'r Elusen, gallwch gysylltu â thîm yr Elusen yn: ctm.charity@wales.nhs.uk

 

25/04/2025