Neidio i'r prif gynnwy

Eich helpu i roi'r gorau i ysmygu eleni

Mae 2025 wedi cyrraedd ac mae llawer ohonom yn edrych ar wneud Addunedau Blwyddyn Newydd. Mae miloedd o bobl wedi rhoi'r gorau i ysmygu a gallwch chi ei gwneud hefyd - felly gwnewch y mis Ionawr hwn yn ddechrau newydd.

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn dod â llawer o fanteision i iechyd, rhai ar unwaith ac eraill sy'n cynyddu dros amser. Mae'r rhain yn cynnwys cael mwy o egni a gallu anadlu'n haws. Bydd gennych hefyd fwy o arian yn eich poced; mae'r ysmygwr cyffredin yn gallu arbed tua £106 yr wythnos pan fydd yn rhoi'r gorau iddi - sef £5,000 y flwyddyn (yn seiliedig ar 20 sigarets y dydd, ffigurau a adroddwyd gan ffigurau ONS). 

Felly, os ydych chi neu aelod o’ch teulu wedi cael digon ar ysmygu a’r holl effeithiau negyddol a gaiff, beth am ymuno â’r 15,000 o bobl yng Nghymru sy’n cael cymorth gan Helpa Fi i Stopio bob blwyddyn?

Mae Tîm Helpa Fi i Stopio Cwm Taf Morgannwg yma i helpu pob ysmygwr ar y daith i ddod yn ddi-fwg. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys meddyginiaeth disodli nicotin (NRT) am ddim.

Cysylltwch heddiw drwy e-bostio CTM.HelpMeQuit.Community@wales.nhs.uk neu ffonio Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219.

08/01/2025