Mae marwolaeth unrhyw blentyn yn drasig iawn, ac mae’r ffaith bod Logan wedi colli ei fywyd yn nwylo'r rhai a oedd agosaf ato yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar ei deulu, ei ffrindiau a'i gymuned am byth.
Yn gyntaf, rydyn ni'n ymddiheuro i dad Logan. Rydyn ni'n ymddiheuro i'w deulu, a phawb oedd yn ei adnabod, ac yn ei garu. Rydyn ni’n ymddiheuro am y methiannau yn ein systemau a allai fod wedi cynnig cyfleoedd cynharach i adnabod camdriniaeth ac i amddiffyn Logan.
Rydyn ni’n derbyn yn llwyr yr argymhellion a'r camau gweithredu yn yr adolygiad. Mae nifer o gamau gweithredu eisoes ar y gweill i wella arferion diogelu yn ein Bwrdd Iechyd, a gyda'n partneriaid.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Rydyn ni'n croesawu Adolygiad Annibynnol aml-asiantaeth sydd wedi’i gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg a fydd yn edrych ar sut yr eir ati i adnabod ac ymchwilio i anafiadau nad ydyn nhw’n ddamweiniol ymhlith plant a phobl ifanc, a’r ffordd y caiff y gwaith hwnnw ei reoli. Bydd hyn yn rhoi ffocws i asiantaethau wella gwasanaethau diogelu ar y cyd er mwyn helpu i atal unrhyw blentyn arall rhag profi niwed a chamdriniaeth.
Mae marwolaeth Logan wedi cael effaith fawr ar gydweithwyr ar draws ein Bwrdd Iechyd hefyd. Ni fyddwn byth yn anghofio'r hyn a ddigwyddodd i Logan a byddwn yn cofio amdano drwy ein hymrwymiad i wella ein gwasanaethau, systemau a phrosesau, ac i sicrhau diogelwch ein plant sydd fwyaf agored i niwed.
24/11/2022