Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn treialu dull amlddisgyblaethol newydd o drin cleifion mewn cartrefi gofal yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar breswylwyr oedrannus mewn cartrefi gofal, eu gallu i lyncu, eu maeth a’u moddion.
Esboniodd Sheiladen Aquino, y prif therapydd iaith a lleferydd clinigol ar gyfer y prosiect: "Yn aml, mae preswylydd oedrannus mewn cartref gofal yn gallu cael sawl anhawster wrth iddo heneiddio. Yn aml, mae hyn yn cynnwys problemau gyda llyncu (dysffagia) sy’n gallu arwain at ddiffyg maeth a methu â chymryd moddion.
"Hyd yn hyn, byddai angen i staff cartrefi gofal ofyn i'r meddyg teulu am atgyfeiriadau at dri gwahanol wasanaeth, gan gynnwys therapydd iaith a lleferydd ar gyfer anawsterau llyncu, dietegydd ar gyfer cyngor maeth, a fferyllydd am adolygiad o foddion. Mae hyn yn golygu aros ar dair rhestr aros wahanol a mynd i dri gwahanol apwyntiad."
Mae'r model gofal sy'n cael ei dreialu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dod â'r tair elfen hyn at ei gilydd mewn tîm amlddisgyblaethol integredig, lle mai dim ond un atgyfeiriad sydd ei angen er mwyn gweld tri gweithiwr proffesiynol. Dim ond un apwyntiad ar-lein y bydd angen i gleifion fynd iddo, a byddan nhw’n cael cynllun gofal integredig yn ystod hwnnw.
"Gan ddefnyddio'r dechnoleg newydd sydd ar gael i ni, erbyn hyn does dim angen i ni ddod â'r cleifion oedrannus hyn i'r ysbyty ar gyfer nifer o apwyntiadau," meddai Sheiladen. "Rydyn ni’n uwchsgilio ac yn hyfforddi staff cartrefi gofal i wneud yn siŵr eu bod nhw’n arwain y ffordd o ran hwyluso apwyntiadau, heb i'r unigolyn oedrannus orfod gadael y safle.
"Mae tystiolaeth bod darparu gofal digyswllt i gleifion oedrannus yn arwain at dderbyniadau i'r ysbyty. Drwy integreiddio’r gofal fel hyn, mae'r pecyn gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan arwain at ofal parhaus o ansawdd yn ogystal â gwell cysur i'r claf."
Mae'r prosiect peilot yn cael ei gefnogi gan Raglen Enghreifftiol Bevan, sy'n galluogi staff iechyd a gofal ledled Cymru i ddatblygu a phrofi eu syniadau doeth eu hunain, er mwyn gwella a thrawsnewid iechyd a gofal.
Mae Joanne Cass, sef yr Arweinydd Clinigol yng Nghartref Gofal Picton Court, wedi bod yn gweithio gyda thîm y Bwrdd Iechyd ar y prosiect hwn. Mae ei thîm wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol yn ddiweddar er mwyn dechrau mynd ati. Meddai hi: "Roedd hon yn ymdrech drefnus ymysg sawl tîm, ac roedd yn llawn cymhelliant a gwybodaeth.
"Mae'r gallu i fanteisio ar wybodaeth pob un ohonoch chi, yn ogystal â'r cyfle i aelodau o'r tîm nyrsio holi cwestiynau a chael eglurhad am agweddau ar dysffagia, yn fuddiol iawn."