Mae dull arloesol o reoli llif cleifion wedi ei lansio yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Syniad Rob Foley, Rheolwr Llif y Cleifion, yw Barod i Fynd, a’i nod yw dod â rheolwr pob ward ynghyd i drafod staffio, capasiti, ansawdd a diogelwch ledled Ysbyty’r Tywysog Siarl. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr fod pob ward ac adran yn ddiogel i gychwyn y diwrnod.
Mae’r cyfarfodydd dyddiol yn ffordd i’r nyrsys ac adrannau fynegi unrhyw bryderon ac i sicrhau bod yr ysbyty’n gallu delio â’r pwysau cyfredol drwy wneud yn siŵr fod pob ward ac aelod o’r staff yn gweithio i’w llawn capasiti. Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, bydd y staff yn cael eu symud i ran arall o’r ysbyty i roi cymorth i’w gilydd.
Mae’r prosiect wedi llwyddo i helpu nifer o wardiau nad oedden nhw’n ddiogel i ddechrau’r dydd oherwydd cyfyngiadau ar y staff, yn ogystal â helpu’r adran argyfwng hynod o brysur i gwtogi ar yr oedi hir am ambiwlans ac am wely. Gwnaed hyn trwy bennu capasiti ward a chynllunio sut i symud cleifion.
Meddai Rob Foley, Rheolwr Llif y Cleifion a chrëwr y prosiect, “Roedd gwreiddio cysyniad Barod i Fynd yn allweddol er mwyn sicrhau gwelliant a newid i’r timau yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Rydyn ni wedi creu dull strwythuredig i’r timau ddisgrifio’r galw ar eu wardiau, ond hefyd iddyn nhw ddeall y galw ar rannau eraill o’r ysbyty. Wrth gyflwyno hyn i’r holl wardiau, rydyn ni wedi gweld shifft ddiwylliannol lle mae’r wardiau’n rhannu ac yn mynnu perchnogaeth ar yr ymateb er mwyn ceisio lleihau’r risg i gleifion yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.”
Meddai Greg Dix, y Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol, “Mae diogelwch ein cleifion yn flaenoriaeth allweddol ar draws y Bwrdd Iechyd ac mae’r dull hwn yn rhoi cleifion wrth graidd pob penderfyniad yn yr ysbyty. Rhaid llongyfarch tîm arwain Ysbyty’r Tywysog Siarl am y dull hwn a’r camau a gymerwyd ar y cyd i reoli risg ledled y safle er mwyn cadw ein cleifion mor ddiogel â phosib.”