Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Diabetes y Byd 2024

Heddiw, ar Ddiwrnod Diabetes y Byd 2024, mae Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Philip Daniels, wedi rhyddhau adroddiad sy’n tynnu sylw at nifer yr achosion o’r cyflwr ar draws y rhanbarth.

Ymhlith canfyddiadau’r adroddiad mae’r ystadegyn llwm bod gan yr ardal CTM rai o’r lefelau uchaf o bobl sydd dros bwysau neu’n ordew yng Nghymru; gan gynnwys oedolion a phlant.

Mae mwy na 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, gyda 31,000 ohonyn nhw’n byw o fewn ôl troed CTM. Yn gysylltiedig â gordewdra a bod dros bwysau, mae diabetes math dau yn cyfrif am tua 90% o'r holl achosion diabetes. Gellir ei atal i raddau helaeth, o ran cychwyn a datblygiad cymhlethdodau a chanlyniadau.

Gallai tua hanner yr achosion o ddiabetes math dau fod wedi cael eu hatal gyda newid ffordd o fyw fel diet gwell, cynyddu gweithgarwch corfforol, a chynnal pwysau iach.

Dywedodd Philip Daniels, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: “Mae fy adroddiad yn edrych ar y realiti difrifol iawn bod gan BIPCTM rai o lefelau uchaf Cymru o ordewdra ymhlith oedolion a phlant. Nid yn unig hyn, mae gennym hefyd y ganran uchaf o bobl yng Nghymru â diabetes math 2 â BMI 40+. Mae tua dau o bob tri oedolyn mewn CTM dros bwysau neu’n ordew, ac mae tua un o bob tri yn byw gyda gordewdra.”

“Yn fwy pryderus yw bod un o bob wyth o blant pedair-bump oed yn CTM yn dechrau ar eu taith ysgol gyda gordewdra, a mwy nag un o bob pedwar dros bwysau. Dyma’r gyfradd uchaf o ordewdra ymhlith plant yng Nghymru.”

Bod dros bwysau neu'n ordew yw'r prif ffactor risg addasadwy ar gyfer diabetes math dau, ac ar hyn o bryd mae plant yn byw yn rhanbarth CTM sydd â diagnosis o ddiabetes Math 2.

Parhaodd Philip: “Mae diabetes ei hun yn gyflwr difrifol, ond nid dyma’r unig achos o bryder pan fydd gan berson y cyflwr hwn. Mae pobl sy’n byw gyda diabetes mewn perygl o gael cymhlethdodau difrifol posibl, gan gynnwys clefyd y traed, clefyd cardiofasgwlar gan gynnwys trawiad ar y galon a strôc, colli golwg, clefyd yr arennau a methiant yr arennau, ynghyd â llai o les cyffredinol a risg uwch o iselder. Yn ogystal, mae pobl â diabetes wedi lleihau disgwyliad oes hyd at ddeng mlynedd na’r rhai heb ddiabetes.”

Mae cost ariannol hefyd; mae trin diabetes math 2 yn cyfrif am tua 10% o gyllideb flynyddol y GIG ac mae 80% o hyn i'w briodoli i gymhlethdodau diabetes.

Wrth siarad am y gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r phroblemau hyn yn CTM, ychwanegodd Philip: “Mae gwaith sylweddol yn digwydd i fynd i’r afael â’r phroblemau hyn. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ein gweledigaeth leol, tymor hir ar gyfer Pwysau Iach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gyd-fynd â'r Strategaeth Genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys

creu amgylchedd iach ar gyfer ein staff, cleifion ac ymwelwyr yn ogystal â darparu cymorth cymunedol wedi'i gyd-gynllunio i unigolion a theuluoedd gyflawni a chynnal pwysau iach.

“Os ydym am leihau’r niferoedd uchel o bobl sydd dros bwysau neu’n ordew (ac felly’n risg uwch o ddatblygu diabetes) mae angen i ni fabwysiadu dull hirdymor, system gyfan, gan weithio gyda’n rhanddeiliaid, sefydliadau partner a chymunedau.

“Rydym yn bwriadu arwain newid yn y ffordd yr ydym yn siarad ac yn meddwl am ordewdra ar draws CTM. Byddwn yn creu cymunedau iachach, gan weithio gyda randdeiliaid i achub ar gyfleoedd i lunio ein hamgylcheddau bwyd a gweithgarwch. Rydym yn gwrando ar ein cymunedau ac yn anelu at ddatblygu cynllun gweithredu rhanbarthol, a fydd yn hwyluso newid hirdymor.”

I ddarllen yr adroddiad llawn, cliciwch yma

 

14/11/2024