Mae Diwrnod Cynamseroldeb y Byd (17 Tachwedd) yn cael ei ddathlu'n fyd-eang i godi ymwybyddiaeth o enedigaeth gynamserol a'r effaith y gall ei chael ar deuluoedd.
Yn gynharach eleni, roedd CTM yn ffodus o gael taith rithwir o amgylch yr Uned Babanod Newydd-anedig yn Ysbyty'r Tywysog Siarl a gwblhawyd gan Aerial Photography Wales.
Mae'r daith 3D yn gwbl ymdrochol ac yn caniatáu i bobl 'gerdded trwy' yr Uned Babanod Newydd-anedig a chael syniad o sut brofiad ydyw a'r cyfleusterau sy’n cael ei gynnig. Dywedodd Natalie O'Dell, Arweinydd Bwydo Babanod/Uwch Nyrs Staff:
"Rydyn ni'n deall pan fydd babi'n cael ei eni'n gynamserol bod ton o emosiynau mae rhieni'n eu teimlo, gan gynnwys llawer o ansicrwydd. Ein gobaith gyda'r daith rithwir yw dangos beth i'w ddisgwyl yn yr uned felly, os oes angen, gallan nhw ymgyfarwyddo ymlaen llaw a lleihau rhai o'u pryderon. Ers ei lansio ym mis Ebrill eleni, rydym wedi cael dros 350 o ymweliadau â'r safle taith rithwir sy'n wych."
Gweld taith rithwir yr Uned Babanod Newydd-anedig.
Diolch i John Jackson a Jeff Mapps yn Future Valleys Construction, FCC Construcción a Aerial Photography Wales am sicrhau a chynhyrchu'r daith rithwir.
Yn gynharach eleni, cododd Future Valleys Construction arian ar gyfer yr Uned Babanod Newydd-anedig a chodwyd bron i £4,000. Cafodd yr arian hwn ei ddefnyddio ar gyfer y daith realiti rhithiol, iPads, ac anrhegion i staff a chleifion. Rhannodd llefarydd ar ran Future Valleys Construction:
"Mae Future Valleys Construction yn gwneud gwaith i wella ac ehangu'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun. Mae'r gwaith hwn yn rhedeg yn agos iawn i Ysbyty'r Tywysog Siarl ac mae llawer o'n staff wedi gweld drostynt eu hunain waith gwych yr Uned Babanod Newydd-anedig. Roedd codi arian i'r Uned yn fraint wirioneddol i'n tîm, gyda'n holl staff a chyflenwyr yn awyddus i gymryd rhan. Wrth ymweld â'r Uned, gallem weld ar unwaith pa mor angerddol, proffesiynol a gofalgar yw'r tîm cyfan. Dyma'r lle mwyaf arbennig y gellir ei ddychmygu ac roedd yr angen am offer yn wirioneddol atseinio gyda'n tîm. Gyda'n gilydd roeddem yn gallu codi dros £3,800 ar gyfer yr Uned ac roedd mor dda pan ddaeth ein fideograffydd proffesiynol, Aerial Photography Wales, i'n helpu ni."
Dywedodd Dave Powell, Cyfarwyddwr Aerial Photography Wales:
"Dyma'r tro cyntaf i ni wneud sgan 3D o ysbyty ac roedd yn newid adfywiol. Gwnaeth proffesiynoldeb ac ymroddiad y tîm gofal iechyd argraff fawr arna i, gan weithio'n ddiflino i ofalu am y cleifion lleiaf oll. Rydw i’n teimlo'n freintiedig i chwarae rhan fach wrth gefnogi'r gwaith hanfodol hwn, gan gynhyrchu rhywbeth a fydd, gobeithio, yn cael ei ddefnyddio gan lawer o deuluoedd yn y blynyddoedd i ddod i'w helpu i'w paratoi ar gyfer beth sydd i ddod." Darllenwch fwy am waith Aerial Photography Wales yn YTS.
Gall unrhyw staff neu aelodau o'r gymuned sy'n dymuno codi arian ar gyfer eu hysbytai neu wasanaethau lleol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wneud hynny drwy'r Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg – Cysylltwch â ni ctm.charity@wales.nhs.uk am fwy o wybodaeth.
17/11/2024