Yr wythnos hon, ddydd Iau 16 Hydref, bydd BIP CTM yn nodi Diwrnod Adfywio’r Galon 2025.
Mae hon yn fenter flynyddol sydd â'r nod o gynyddu nifer y bobl sydd wedi'u hyfforddi mewn Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibriliad er mwyn gwella cyfraddau goroesi ar ôl ataliadau ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Trefnir y digwyddiad gan Gyngor Adfywio'r DU, gyda chefnogaeth amrywiol sefydliadau gan gynnwys Sefydliad Prydeinig y Galon, Ambiwlans Sant Ioan, y Groes Goch Brydeinig a gwasanaethau ambiwlans y DU.
Mae'r ymgyrch yn annog unigolion i ddysgu sgiliau CPR a bod yn barod i adfywio’r galon, sy'n hanfodol ar gyfer cynyddu'r siawns o oroesi yn ystod argyfyngau cardiaidd.
Mae'r fenter hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd CPR a defnyddio diffibrilwyr, a all wella cyfraddau goroesi yn sylweddol.
Sesiynau Hyfforddi Galw Heibio CPR Am Ddi
Yr wythnos hon, bydd tîm Adfywio CTM yn cynnal sesiynau hyfforddi galw heibio CPR am ddim i staff a'r cyhoedd, er mwyn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau achub bywyd.
Dydd Mercher 15 Hydref
Ysbyty'r Tywysog Siarl, Mynedfa 5 (09:30yb - 12:30yp)
Dydd Iau 16 Hydref
Ysbyty Tywysoges Cymru, Mynedfa (9yb – 12yp)
Dydd Gwener 17 Hydref
Ffreutur Ysbyty Tywysoges Cymru (9yb -12yp)
Dydd Gwener 17 Hydref
Ysbyty Cwm Cynon, Mynedfa (09:30yb -12:30yp)
Dywedodd Vanessa Jones (Nyrs Arweiniol Dros Dro Adfywio a Dirywiad Acíwt): “Dim ond un o bob 10 o bobl sy’n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty ac mae pob munud heb CPR a diffibriliad yn lleihau’r siawns o oroesi hyd at 10%.
Gyda'r rhan fwyaf o ataliadau ar y galon yn digwydd gartref, gallai dysgu neu adnewyddu CPR y Diwrnod Adfywio’r Galon hwn eich arfogi â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i achub bywyd anwylyd. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ar draws CTM ddysgu neu adnewyddu eu sgiliau CPR, a dod yn barod i adfywio’r galon.”
15/10/2025