Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Pwysig: Salwch anadlol sy'n cylchredeg yn ein hysbytai

Rydym yn profi cynnydd sylweddol mewn heintiau anadlol y gaeaf sy'n cylchredeg yn ein hysbytai a'n cymunedau ar draws CTM. Mae hyn wedi arwain at fwy o dderbyniadau i'r ysbyty, yn enwedig yn ein grwpiau cleifion mwyaf bregus, fel yr henoed.

Os ydych yn ymweld ag un o'n safleoedd ysbytai yn ystod yr wythnosau nesaf, gallwch chwarae eich rhan yn ein helpu ni i osgoi lledaenu salwch ac atal staff y GIG rhag mynd yn sâl.

Helpwch ni drwy ddilyn y camau isod:

Cael eich brechu
Os ydych yn gymwys i gael brechiadau rhag y ffliw neu COVID, peidiwch â cholli allan. Cael eich brechu yw'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud i atal eich hun rhag mynd yn sâl a dioddef effeithiau gwaethaf y feirysau hyn.

Cynnal hylendid dwylo da
Golchwch eich dwylo'n aml â sebon a dŵr, neu defnyddiwch ddiheintydd dwylo. Gall hyn ymddangos fel peth bach, ond mae'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Ymweld yn gyfrifol
Gall afiechydon anadlol a firysau fod yn beryglus i gleifion bregus mewn ysbytai.

Os ydych yn credu bod feirws gyda chi, neu wedi treulio amser gyda rhywun sydd â feirws yn ddiweddar, dylech osgoi ymweld ag ysbyty oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.

Dyma Filipe Leitao, ein Pennaeth Nyrsio ar gyfer Rheoli Heintiau, yn siarad am sut y gallwch fod yn ymwelwydd cyfrifol i safleoedd ein ysbytai.

17/10/2025