Rydym wedi gosod rhai unedau dros dro ar y safle yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a fydd yn cynyddu ein gallu llawfeddygol ac endosgopi. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at ostyngiad dros dro mewn mannau parcio. Mae mannau parcio anabl wedi'u blaenoriaethu, eu cadw a'u symud i leoliad addas ger y prif adeilad.
Rydym yn annog pob ymwelydd i adael amser ychwanegol wrth ddod i'r safle i ganiatáu digon o amser i barcio. Parciwch yn gyfrifol - mae angen mynediad clir ar gerbydau brys bob amser, ac mae eich cydweithrediad yn hanfodol i sicrhau diogelwch cleifion, staff ac ymwelwyr.
Peidiwch â pharcio mewn mannau "Dim parcio o dan unrhyw amgylchiadau", sydd ag arwyddion ar draws y safle. Mae angen cadw'r ardaloedd hyn yn ddi-draffig i alluogi mynediad i gerbydau brys bob amser. Byddwn yn rhoi Hysbysiadau Tâl Parcio (PCNs) i geir y canfyddir eu bod wedi parcio mewn modd anniogel.
Rydym yn gofyn i ymwelwyr a staff ystyried opsiynau teithio gwyrdd fel rhannu ceir a thrafnidiaeth gyhoeddus wrth gael mynediad i'r safle yn ystod yr oriau brig. Rydym hefyd yn darparu parcio amgen i'n staff, gerdded fer i ffwrdd o'r ysbyty.
Diolchwn i'n staff gweithgar sy'n gwneud eu gorau i reoli'r sefyllfa — byddwch yn amyneddgar a pharchus wrth iddynt helpu gyda llif y traffig.
Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad.
19/02/2025