Mae'r gwasanaeth pelydr-X Meddygon Teulu yn Ysbyty Cwm Rhondda wedi ailagor heddiw (7 Ebrill 2025).
Caeodd dros dro ar gyfer gwaith adnewyddu hanfodol o ddydd Iau 2 Ionawr ymlaen.
Mae meddygon teulu ledled Cwm Taf Morgannwg wedi cael manylion am y trefniant gwasanaeth a ailgyflwynwyd yn Ysbyty Cwm Rhondda, ar gyfer cefnogi unrhyw glaf sydd angen ei atgyfeirio i'r gwasanaeth.
Bydd meddygon teulu yn parhau i gynghori unrhyw un o'u cleifion sydd ag amheuaeth o dorasgwrn i ddal i fynychu Ysbyty Brenhinol Morgannwg; o Ddydd Llun — Dydd Gwener, a rhwng oriau 9am a 4pm (ac eithrio gwyliau banc), fel y gellir eu rheoli'n briodol os bydd torasgwrn yn cael ei nodi. Dyma'r un system a oedd ar waith cyn newid y gwasanaeth.
08/04/2025