Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg roi’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i’w Wasanaethau Awtistiaeth Integredig i Oedolion (IAS) a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gleifion sy’n byw yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar hyn o bryd, mae cleifion Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hasesiad awtistiaeth, cyngor a chymorth gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; trefniant sydd wedi parhau yn dilyn newid ffin Bwrdd Iechyd Prifysgol CTM yn 2019.
O 1 Ebrill 2024, bydd cleifion Pen-y-bont ar Ogwr yn trosglwyddo o IAS BIP Bae Abertawe i restr aros IAS BIP Cwm Taf Morgannwg. Bydd gan gleifion Pen-y-bont ar Ogwr fwy o hyblygrwydd a dewis i fynychu apwyntiadau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac mewn safleoedd BIPCTM eraill. Bydd y newid hwn yn y gwasanaeth yn galluogi’r Bwrdd Iechyd, ynghyd â’i sefydliadau partner i ddatblygu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ‘Unwaith dros CTM’ ar gyfer yr holl gleifion sy’n byw yn nalgylch Cwm Taf Morgannwg.
Cysylltir yn uniongyrchol â chleifion yr effeithir arnyn nhw gan y newid hwn.
22/03/2024