Neidio i'r prif gynnwy

Diwedd i wisgo masgiau gorfodol

Rydym yn falch o rannu bod nifer yr achosion o heintiau anadlol acíwt, gan gynnwys ffliw ar draws rhanbarth CTM bellach yn lleihau.

O ganlyniad, rydym yn atal gwisgo masgiau gorfodol ar draws ein lleoliadau. Rydym wedi ymrwymo i ymateb i'r dystiolaeth fwyaf diweddar a sicrhau mesurau atal heintiau ymarferol ac effeithiol.

Dydy’r newid hwn ddim yn golygu stopio bod yn wyliadwrus. Mae'n bosib y bydd masgiau yn dychwelyd os ydym yn gweld cynnydd mewn heintiau neu'n derbyn rhybudd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd atal defnyddio masgiau yn dod i rym o heddiw ymlaen, dydd Gwener, 17 Ionawr 2025. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd, a bydd unrhyw addasiadau angenrheidiol yn cael eu cyfleu'n brydlon i sicrhau diogelwch ein cleifion, staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Diolch am ein helpu i arafu lledaeniad yr haint. Mae eich cydweithrediad yn parhau i fod yn hanfodol i gynnal diogelwch ein staff a'n cleifion.

 

17/01/2025