Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Gyrfaoedd Therapi Iaith a Lleferydd Ar-lein Cymru Gyfan

Bydd digwyddiad Gyrfaoedd Therapi Iaith a Lleferydd Cymru Gyfan am ddim yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Gwener 11 Hydref o 8:45yb-12:00yp.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar y cyd gan gynrychiolwyr Therapi Iaith a Lleferydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ynghyd â chynrychiolwyr Therapi Iaith a Lleferydd o’r chwe bwrdd iechyd arall yng Nghymru, a gweithwyr proffesiynol Therapi Iaith a Lleferydd sy’n cyflwyno cyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam.

Wedi’i anelu at ddisgyblion oed ysgol a choleg, ac oedolion sy’n ystyried newid gyrfa, bydd y digwyddiad yn hyrwyddo’r amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa sydd ar gael ym maes therapi Iaith a Lleferydd.

Bydd y digwyddiad ar-lein yn cynnwys cyflwyniad i therapi iaith a lleferydd fel proffesiwn, gwybodaeth yn ymwneud ag amrywiaeth eang o rolau therapi iaith a lleferydd, trafodaethau panel gyda myfyrwyr Therapi Iaith a Lleferydd presennol, gweithwyr proffesiynol Therapi Iaith a Lleferydd newydd gymhwyso, cynorthwywyr Therapi Iaith a Lleferydd, ac arbenigwyr yn y maes. Bydd mynychwyr hefyd yn gallu cael mynediad i fideos astudiaeth achos o gleifion, rhieni a theuluoedd yn esbonio sut mae therapyddion Iaith a Lleferydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau.

Dywedodd Sali Curtis, Pennaeth Therapi Iaith a Lleferydd Oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Rydym yn falch iawn o gael cyd-gynnal y digwyddiad gyrfaoedd Therapi Iaith a Lleferydd hwn. Bydd hwn yn blatfform gwych i siarad â myfyrwyr ac oedolion sydd â diddordeb yn y maes, ac i egluro beth rydym yn ei wneud a sut mae ein gwaith yn helpu pobl yn ein cymunedau lleol. Os ydych yn meddwl am yrfa mewn Therapi Iaith a Lleferydd, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle perffaith i ddarganfod mwy.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, ewch i:

Tocynnau Digwyddiad Gyrfa Therapi Iaith a Lleferydd - Dydd Gwener 11 Hydref 2024

21/08/2024