Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad galw heibio am wasanaethau yn Nhŷ Llidiard

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd sesiwn galw heibio ynglŷn â’r gwasanaethau yn Nhŷ Llidiard ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r cyfleuster yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.

Holwyd pobl am eu barn ynglŷn â sut gallwn ni wella'r gwasanaethau yn Nhŷ Llidiard ac ynglŷn â hunaniaeth weledol er mwyn ymgorffori’r diwylliant o fod yn ofalgar, yn tosturiol, yn ddigynnwrf ac yn hyderus.

Rhoddodd y digwyddiad le anffurfiol i bobl roi adborth ar beth sy'n gweithio'n dda nawr beth mae modd ei wella neu ei newid.

Cafodd staff, rhanddeiliaid, cleifion a chyn-gleifion eu gwahodd i ddweud eu dweud.

Daeth un ferch yn ei harddegau i’r sesiwn ar ôl bod yn glaf yn yr uned y llynedd. Meddai hi, “Fel cyn-glaf, roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn dod i'r sesiwn gyda fy mam heddiw a chyfrannu at y drafodaeth hon. Roeddwn i’n gallu siarad am y pethau aeth yn dda i mi yn ystod fy arhosiad, ond hefyd y pethau mae angen eu gwella yn fy marn i. Mae'n bwysig iawn bod defnyddwyr gwasanaethau yn dweud eu dweud.”

Yn ystod y sesiwn, holwyd pobl am eu barn ar y pedair elfen ganlynol:

•             Gofalgar – sut gallwn ni greu lle mwy gofalgar i bobl ifanc pan fyddan nhw’n aros yn Nhŷ Llidiard a lle mwy gofalgar i’r staff weithio ynddo?

•             Tosturiol – sut gallwn ni greu lle mwy tosturiol i bobl ifanc pan fyddan nhw’n aros yn Nhŷ Llidiard, a lle mwy tosturiol i’r staff weithio ynddo?

•             Digynnwrf – Sut gallwn ni greu lle mwy digynnwrf i bobl ifanc pan fyddan nhw’n aros yn Nhŷ Llidiard, a lle mwy digynnwrf i’r staff weithio ynddo?

•             Hyderus – Sut gallwn ni greu lle mwy hyderus i bobl ifanc pan fyddan nhw’n aros yn Nhŷ Llidiard, a lle mwy hyderus i’r staff weithio ynddo?

Meddai Lloyd Griffiths, Pennaeth Nyrsio Dros Dro Tŷ Llidiard; “Mae'r gwaith ymgysylltu hwn mor bwysig o ran llywio'r ffordd rydym ni’n gweithredu ein gwasanaethau ac o ran hyrwyddo'r cyfleuster hwn. Rydyn ni wedi clywed barn gref ac wedi cael adborth mor rhagorol yn rhan o hyn, a bydd hyn i gyd yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau gwell fyth i'n pobl ifanc wrth symud ymlaen.”